Cydnabod YGC fel Buddsoddwr Mewn Pobl
Llun o Steffan Jones, Pennaeth Priffyrdd, Peirianneg ac YGC a Cynghoryrdd June Jones – Aelod Cabinet Adran Priffyrdd, Peirianneg ac YGC
Mae’n bleser gan Fuddsoddwyr mewn Pobl ddyfarnu achrediad safonol i YGC – Ymgynghoriaeth Gwynedd, sef sefydliad ymgynghoriaeth amlddisgyblaethol o ogledd Cymru, Rydym yn Buddsoddi mewn Pobl.
Mae’n golygu bod egwyddorion ac arferion cefnogi pobl yn eu lle a bod pawb yn deall sut i’w defnyddio i wneud gwaith yn well!
Dywedodd Paul Devoy, Prif Weithredwr Buddsoddwyr mewn Pobl: “Hoffem longyfarch YGC. Mae cael ei hachredu gyda Rydym yn buddsoddi mewn pobl yn ymdrech ryfeddol i unrhyw sefydliad, ac yn gosod YGC mewn cwmni da gyda llu o sefydliadau sy’n deall gwerth pobl.”
Wrth sôn am y wobr, dywedodd y Cynghoryrdd June Jones – Aelod Cabinet Adran Priffyrdd, Peirianneg ac YGC: “Rwyf wrth fy modd bod YGC wedi cael ei hachredu unwaith eto gydag achrediad Safonol Rydym yn buddsoddi mewn pobl. Mae’r gwasanaeth YGC wedi ymrwymo i hyfforddiant, datblygiad a lles eu staff.
Mae YGC yn wasanaethau sydd yn rhan o Adran Priffyrdd, Peirianneg ac YGC Cyngor Gwynedd. Mae’r gwasanaethau a gynigir gan YGC yn amrywio o ddylunio, adeiladu a chynnal ffyrdd, strwythurau ac adeiladau i fonitro’r perygl o lifogydd a sicrhau bod yr amgylchedd yn cael ei warchod. Mae YGC yn gweithio ar draws gogledd a chanolbarth Cymru, gyda swyddfeydd yng Nghaernarfon, Pwllheli a Dolgellau.
Mae Gwasanaeth YGC yn darparu ystod o wasanaethau ynghyd ac arbenigedd leol drwy gyflogaeth 125 o staff er sicrhau gwasanaethau hanfodol i bobl Gwynedd a’u holl gwsmeriaid a partneriaid ar draws Gwynedd ac yn ehangach”.
Llun logo Buddsoddwyr mewn Pobl
Am ragor o wybodaeth am waith YGC dilynwch y gwasanaeth ar Facebook, X neu ewch draw i wefan y gwasanaeth https://ygc.cymru/