(01286) 679426 ygc@gwynedd.llyw.cymru

‘darparu datrysiadau arloesol a chynaliadwy’

Rydym yn ymgynghoriaeth amlddisgyblaethol sy’n darparu datrysiadau arloesol

a chynaliadwy i ddiwallu anghenion cynllunio, dylunio a chyflawni prosiectau’r amgylchedd adeiledig.

Gwybodaeth

Mae ein timau o weithwyr proffesiynol yn meddu lefelau priodol o wybodaeth ac arbenigedd,

a gefnogir gan feddalwedd a systemau dylunio o’r radd flaenaf.

Profiad

Wedi ei sefydlu ers 1996, YGC yw’r gwasanaeth ymgynghorol mwyaf  sy’n cael  ei redeg gan

awdurdod lleol yng Nghymru, ac wedi profi ei hun fel gwir gystadleuydd yn y diwydiant.

Llwyddiant Hanesyddol

O brosiectau sydd wedi ennill gwobrau i gontractau ailadroddol gyda chleientiaid sefydledig,

mae gennym hanes profedig o gyflawni prosiectau, beth bynnag fo’u maint neu gymhlethdod.

Anelu am Ragoriaeth

 

Gallwn ddarparu ymgynghoriad arloesol a chynaliadwy ar gyfer yr amgylchedd adeiledig a naturiol.

Rydym yn frwd dros y gwasanaethau a ddarparwn ar draws y sectorau cyhoeddus a phreifat, ac rydym wedi ymrwymo i ddarparu’r safon uchaf i’n cleientiaid.

DYLUNIO ISADEILEDD A THRAFNIDIAETH

Rydym wedi bod yn gyfrifol am ddylunio a chyflwyno nifer o brosiectau allweddol ar rai o ffyrdd a priffyrdd y rhanbarth.

YMGYNGHORIAETH AMGYLCHEDDOL

Mae ein tîm ymroddedig o ymgynghorwyr amgylcheddol yn rhan annatod o’n dull gweithredu, ac mae gennym amrywiaeth o adnoddau i fodloni’r gofynion cynyddol sy’n codi o ddeddfwriaeth.

DŴR AC ARFORDIR

Gennym ni dîm o beirianwyr pwrpasol i ddelio â’r bygythiad cynyddol o lifogydd sy’n cael ei achosi gan y cynnydd a ragwelir mewn lefelau môr a dwysedd glaw sy’n gysylltiedig â newid yn yr hinsawdd.

SYRFEWYR MEINTIAU AC YMGYNGHORIAETH COSTAU

Rydym yn darparu gwasanaethau costau, amcangyfrifo, caffael, rheoli prosiect a gwasanaethau ymgynghoriaeth arbenigol eraill i gleientiaid o’r sector cyhoeddus a phreifat.

DYLUNIO ADEILADAU AC AROLYGU EIDDO

O adnewyddu graddfa fechan i ddatblygiad ysgolion newydd, mae gan ein heiddo a’n tîm adeiladu y gallu i gyflwyno prosiectau, beth bynnag fo’u maint neu gymhlethdod.