(01286) 679426 ygc@gwynedd.llyw.cymru

Cynllun Rheoli Risg Llifogydd

yn y Groeslon

Yn 2022, cafodd YGC (Cyngor Gwynedd) arian grant gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu’r Cynllun Rheoli Risg Llifogydd yn y Groeslon hyd at y cam dylunio manwl. Nod y cynllun yw lleihau’r perygl o lifogydd i eiddo preswyl a masnachol yn y pentref drwy weithredu ystod o fesurau arfaethedig.

Mae sesiwn galw heibio wedi ei threfnu ar gyfer dydd Llun 19/05/2025 i rannu gwybodaeth gyda’r gymuned, ac i dderbyn adborth ar yr opsiynau sydd dan ystyriaeth ar hyn o bryd.

Mae’r wybodaeth a arddangosir yn y digwyddiad wedi’i gynnwys isod ynghyd â holiadur i drigolion ei lenwi. Byddem yn croesawu dychweliad yr holiaduron cwblhawyd erbyn 30/05/2025.

Os bydd angen rhagor o wybodaeth arnoch, cyfeiriwch eich ymholiad at BethanyFisher@gwynedd.llyw.cymru

Gwybodaeth Defnyddiol

 

Y cynllun yn fras

Fframwaith Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol

Risgiau a Chyfleoedd