(01286) 679426 ygc@gwynedd.llyw.cymru

Gwobrau a Llwyddiannau YGC

 

Rydym yn falch iawn ein bod wedi gweithio ar nifer o brosiectau adnabyddus, ac yn credu bod ein cyfraniad wedi chwarae rhan sylweddol wrth sicrhau bod y cynllun yn diwallu anghenion a disgwyliadau’r cleient. Rydym hefyd yn credu mewn cydnabod ar gyfer y cyfraniad a’r ymdrech y mae ein tîm ymrwymedig o weithwyr proffesiynol wedi’u rhoi i sicrhau bod prosiectau’n cael eu cyflawni.

Buddsoddwyr mewn Pobl – Lefel Safonol

2025 – 2028 Buddsoddwyr mewn Pobl – Lefel Safonol
2021 – 2024 Buddsoddwyr mewn Pobl – Lefel Safonol
2018 – 2021 Buddsoddwyr mewn Pobl – Lefel Safonol
2013 – 2018 Buddsoddwyr mewn Pobl – Lefel Safonol

New Civil Engineer

2026 – Enillydd – New Civil Engineer Bridges Conference & Awards’ – Gwobr Arloesedd y Flwyddyn mewn Arolygu Pontydd – prosiect Tomograffeg Muon ar gyfer Rheoli Pontydd Ôl-Densiynu – Pont Llanrhystud
2024 – Rownd derfynol ‘New Civil Engineer Bridges Conference & Awards’ – Pontydd Bodfel & Bodefail
2020 Rhestr Fer – Effaith mewn Llifogydd

2020 Rhestr Fer – Rhagoriaeth mewn Rheoli Prosiect

2020 Rhestr Fer – Arweinydd mewn Rheoli Talent

2019 – 100 Prif Gwmnïau (NCE100) – Rhestru fel un o 100 o brif Gwmnïau i weithio iddynt
2019 (NCE100) – Canmoliaeth Uchel – Effaith ar Wydnwch Hinsawdd

Sefydliad Siartredig Priffyrdd a Chludiant (Chartered Institution of Highways & Transportation) CIHT

2025 – Ennill – Gwobr Teithio Llesol (Active Travel) ar gyfer Llwybr Teithio Llesol yr A470 Llechwedd – Blaenau Ffestiniog
2025 – Ennill – Gwobr Arloesi ac Ymchwil ar gyfer Trefn Ffrwyno Cerbydau (Vehicle Restraint System) ar yr A493 yn Y Friog
2023 – Enillydd – Gwobr Iechyd, Diogelwch a Lles Alun Griffiths – Rhan o Dîm Gwaith Brys Pont Borth
2023 – Enillydd – Prosiect Isadeiledd y flwyddyn – Rhan o Dîm Gwaith Brys Pont Borth
2023 – Rhestr Fer – Gwobr Iechyd, Diogelwch a Lles Alun Griffiths – A55 Abergwyngregyn i Tai’r Meibion
2023 – Rhestr Fer – Prosiect Isadeiledd y flwyddyn – A55 Abergwyngregyn i Tai’r Meibion
2023 – Rhestr Fer – Gwobr Amglycheddol – A55 Abergwyngregyn i Tai’r Meibion
2019 Rownd Derfynol – Prosiect y Flwyddyn – Cynllun Lliniaru Llifogydd Llanberis
2018 Rownd Derfynol – Gwobr Trafnidiaeth Geodechnegol – A55 Twneli Penmaenbach
2017 Enillydd – Cynllun Trafnidiaeth Geodechnegol y Flwyddyn – Cynllun A55 Abergwyngregyn i Tai’r Meibion
2014 Enillydd – Cynllun Trafnidiaeth Gogledd Cymru y Flwyddyn – A470(T) Gwelliannau Maes yr Helmau i Cross Foxes

Sefydliad Peirianwyr Sifil (Institution of Civil Engineers) – ICE Wales Cymru

2025 Ennill – Gwobr am Amrywiaeth – Cynllun Atal Llifogydd Hirael Bangor
2024 Canmoliaeth Uchel – Gwobr Prosiect y flwyddyn Roy Edwards – Prosiect Pontydd Bodfel a Bodefail Boduan
2022 Enillydd – Arloesedd – Gwelliannau i wal gynnal Llanycil Llyn Tegid Y Bala
2021 Rownd Derfynol Gwobr Cynaladwyedd Bill Ward – Prosiect Atal Llifogydd Ffordd y Traeth y Felinheli
2020  Enillydd – Gwobr Alun Griffiths – Ymgysylltu â’r Gymuned – Cynllun Atal Llifogydd Llanberis
2016 – Gwobr Cynaliadwyedd Bill Ward – Academi Hwylio Genedlaethol a Chanolfan Ddigwyddiadau Cymru (Rôl Peiriannydd / Rheolwr Prosiect)
2015 – Gwobr Cynaliadwyedd – Cynllun Adnewyddu Promenâd Harbwr Caernarfon (Rôl – Prif Ddylunydd a Pheiriannydd)
2011 – Canmoliaeth Uchel – Gwobr George Gibby – Cynllun Amddiffyn Arfordirol Tywyn (Rôl Peiriannydd)
2007 – Canmoliaeth Uchel – Gwobr Roy Edwards – Ffordd Sir Dosbarth 3 ger Plas yn Rhiw, Gwynedd (Rôl – Prif Ddylunydd)
2002 – Canmoliaeth Uchel – Gwobr Prosiect Mawr George Gibby – A487 Gwelliannau Llanwnda i Lanllyfni
Sefydliad y Peirianwyr Sifil (ICE) – Panel ar gyfer Gwaith Peirianneg Hanesyddol
2003 – Gwobr Pont ac Isadeiledd Hanesyddol – Canmoliaeth – Prosiect Llwybr Hamdden Cob Porthmadog (Rôl – Dylunydd)
CEEQUAL – Cynllun Asesu a Dyfarnu Ansawdd yr Amgylchedd Peirianneg Sifil
2015 CEEQUAL – Asesiad Perfformiad Cynaliadwyedd – Gwobr Tîm Cyfan – A470 (T) Gwelliannau Maes yr Helmau i Cross Foxes – Sgorio Perfformiad Cynaliadwyedd – Ardderchog
2012 CEEQUAL – Asesiad Perfformiad Cynaliadwyedd – Gwobr Tîm Cyfan – Cynllun Gwella Priffordd Gelligemlyn A470 – Sgorio Perfformiad Cynaliadwyedd – Da Iawn
2008 CEEQUAL – Asesiad Perfformiad Cynaliadwyedd – Gwobr Prosiect Cyfan – A470 Gwelliannau Blaenau Ffestiniog i Cancoed – Da Iawn
Cydnabod cyflawniadau unigol
2014 Gwobr Ben Barr – Gwynfor Hedd Roberts (Uwch Beiriannydd Prosiect) – Eng Tech MICE – Wedi dangos rhinweddau eithriadol yn ystod ei adolygiad.
2003 Gwobr Patterson – Cefin Edwards (Uwch Beiriannydd) – Yr ymarfer ysgrifenedig orau yn ei Adolygiad Proffesiynol.
1988 Gwobr Patterson – Huw Williams (Pennaeth YGC) – Yr ymarfer ysgrifenedig orau yn ei Adolygiad Proffesiynol.

Adeiladu Arbenigrwydd Yng Nghymru

2025 Rhestr Fer – Prosiect Isadeiledd y Flwyddyn – Cynllun Atal Llifogydd Hirael Bangor
2024 Enillydd – Gwobr Arloesedd – Monitro Lefelau Dŵr Gwynedd o bellter gyfer Rheoli Asedau
2022 Rownd Derfynol – Wal Gynnal, Llanycil, Y Bala

2020 Enillydd – Gwobr Cynaladwyedd – Cynllun Atal Llifogydd Llanberis

2020 Rownd Derfynol – Gwobr Datblygu Pobl – YGC

2019 Rownd Derfynol – Gwobr Cadwraeth ac Adnewyddu – Canolfan lechyd, Blaenau Ffestiniog (Rôl Rheolaeth Adeiladu)
2018 Enillydd – Gwobr Cadwraeth ac Adnewyddu – Yr Ysgwrn, Trawsfynydd (Rôl Rheolaeth Adeiladu)
2018 Canmoliaeth Uchel – Busnesau Bach a Chanolig (SME) y Flwyddyn – YGC
2007 Enillydd – Gwobr Datblygiad Newydd – Pont Gwynfynydd
2007 Enillydd – Y Wobr Etifeddiaeth – Cynaliadwyedd – Ffordd Dosbarth 3 y Sir ger Plas yn Rhiw, Penllyn, Gwynedd (Rôl – Prif Ddylunydd)

‘Generation for Change’ – Adeiladu Arbenigrwydd yng Nhymru

2025 Rownd Derfynol – Gweithiwr Proffesiynol Newydd y Flwyddyn – G4S Cymru (Generation for Change) – Beth Griffiths
2024 Canmoliaeth Uchel – Gweithiwr Proffesiynol Newydd y Flwyddyn – G4S Cymru (Generation for Change) – Alicia Allsup

Gwobr Raddfa Fawr

2026 Enillydd – Prosiect Raddfa Fawr Ardal Cymru (>£250K) y Flwyddyn – Gwobrau Effeithlonrwydd Ynni – PMC 483 – Gosod Paneli Solar PV a Storio Batri – Cyngor Sir Ynys Môn

Gwobr Goffa Dafydd Orwig Cyngor Gwynedd

Am ddefnyddio a hyrwyddo’r Gymraeg yn y gweithle
2019 Nancy Wilkinson o YGC
2017 Owen Duncan yn gynt o YGC
2015 Jonathan Chapman o YGC
2004 Alexandra Jones o YGC
 
Am hyrwyddo’r Gymraeg yn y gweithle
2018 Nia Jane Owen-Midwood o YGC

Gwobr STEM Cymru

2020 – Rownd Derfynol Gwobr STEM Cymru (Gwyddoniaeth Technoleg Peirianneg Mathemateg).

Techfest

2023 Enillydd – Gwobr ‘New Civil Engineer Tech Fest’ – Defnydd Gorau o Dechnoleg 2023: Casglu Data Clyfar ar gyfer Rheoli Asedau – Cynllun Atal Llifogydd Ffordd y Traeth Y Felinheli

Gwobr ‘Tywysog Cymru’

1999 – Rownd Derfynol y Wobr – Enghraifft o ddatblygu cynaliadwy lleol yng Nghymru – A470 Gwelliannau Cefnffordd Cancoed i Finffordd

Gwobrau Ymddiriedolaeth Ddinesig

1999 – Canmoliaeth am gyfraniad gwerthfawr i ansawdd ac ymddangosiad yr amgylchedd – A470 Gwelliannau Cancoed i Finffordd, De-orllewin Dolwyddelan, Gwynedd (Rôl – Dylunydd a Pheiriannydd Strwythurol)

Royal Institute of British Architects –RIBA, Royal Society of Architects in Wales – RSAW

2016 Gwobr Pensaernïaeth Gymreig RSAW – Cleient y Flwyddyn – Academi Hwylio a Chanolfan Ddigwyddiadau Cymru Plas Heli, Pwllheli (Rôl – Rheoli Prosiect a Chleient)
 
YGC members receiving CIHT award