AMDANOM NI
YGC yw’r ymgynghoriaeth sector cyhoeddus mwyaf yng Nghymru, gan weithio gyda rhestr helaeth ac amrywiol o gleientiaid, yn y sector cyhoeddus a phreifat.
YCHYDIG AMDANOM NI
Mae YGC (Ymgynghoriaeth Gwynedd Consultancy) yn ymgynghoriaeth amlddisgyblaethol, sy’n darparu datrysiadau arloesol a cynaliadwy i ddiwallu anghenion cynllunio, dylunio a chyflawni prosiectau yn sectorau isadeiledd a thrafnidiaeth, eiddo ac adeiladu, amgylchedd a dŵr, ac arfordirol.
Yn gweithredu fel endid masnachol o fewn Cyngor Gwynedd, ni yw’r ymgynghoriaeth fwyaf yng Nghymru sy’n cael ei rhedeg gan awdurdod lleol ac rydym yn gweithio gyda rhestr eang ac amrywiol o gleientiaid yn y sector cyhoeddus a phreifat.
Mae ein gwasanaethau yn amrywio o ddylunio, adeiladu a chynnal-a-chadw ffyrdd, adeiladweithiau ac adeiladau gan ymateb i risg o lifogydd mewn ardaloedd arfordirol a sicrhau bod yr amgylchedd yn cael ei ddiogelu wrth ymgymryd â’r holl waith hwn.


Rydym wedi datblygu perthynas waith clos gyda nifer o gleientiaid ledled Cymru ac yn ymfalchïo yn ein hagwedd gydweithredol at weithio’n rhanbarthol er mwyn cyflawni’n lleol.
Mae ein timau amlddisgyblaethol sy’n cynnwys peirianwyr, penseiri, syrfewyr, arbenigwyr llifogydd ac amgylcheddol wedi’u hymrwymo i ddod o hyd i’r datrysiadau mwyaf arloesol a phriodol er mwyn diwallu anghenion ein cleientiaid.
Mae gennym allu i reoli prosiectau o’r dechrau i’r diwedd yn fedrus ac mae ein sgiliau a’n harbenigedd yn cynnwys: ymarfer a gweinyddu contract, ymgysylltu â budd-ddeiliaid, caffael a thendro, rhaglennu a chynllunio, gweinyddu prosiect a rheoli gwerth, cost a risg.
Mae’r YGC hefyd yn meddu ar y sgiliau technegol angenrheidiol i herio gwaith dylunwyr eraill gan ein galluogi i ymgymryd â rôl cynrychiolydd y Cleient, a thrwy hynny, sicrhau bod prosiect yn cael ei reoli’n effeithlon ac effeithiol.
Gyda throsiant blynyddol o bron i £5.5m a thua 110 aelod o staff, YGC yw’r ymgynghoriaeth fwyaf o’i bath yn rhanbarth Gogledd a Chanolbarth Cymru. Mae ein gweithwyr yn darparu gwasanaeth o ansawdd i’r rhanbarth yn gyson, ac mae’r deilliannau hyn yn dod â buddion cymdeithasol ac economaidd i bawb.
GWEITHIO GYDA YGC
Mae gan YGC systemau rheoli, gweithdrefnau a pholisïau sefydledig er mwyn gwarchod:
- Ansawdd ein gwaith
- Yr Amgylchedd Naturiol
- Iechyd a diogelwch ein gweithwyr a phawb arall sy’n cael eu heffeithio gan ein gweithgareddau
Mae YGC wedi gwneud ymrwymiad sylfaenol i weithio ddim ond gyda’r sawl y mae eu safonau yn gymesur â’n rhai ni.
Gweler ein polisïau:
blank
Polisi Ansawdd
Polisi Iechyd a Diogelwch
YGC’s Health & Safety Policy sets out our health and safety objectives. We expect all of our suppliers, sub-contractors and consultants to do what is necessary to ensure we achieve these goals.
- Everyone that works with us, as a minimum, must:
- Embed health & safety as core elements in all they do
- Adhere to all relevant legal and other requirements
- Involve staff in developing good health and safety management
- Report potentially unsafe incidents and injuries and investigate fully to learn lessons
Polisi Amgylcheddol
CWRDD Â’R BOBL SY’N GYFRIFOL AM YGC
Caiff YGC ei arwain gan Bennaeth yr Adran, Huw Williams. Rhennir y sefydliad yn chwe thîm uned sy’n gweithredu ar draws disgyblaethau annibynnol.
Mae rheolaeth YGC yn cynnwys:

Huw Williams
Pennaeth YGC

Emlyn Jones
Uwch Reolwr

Alwynne Morris Jones
Rheolwr Uned
Rheolaeth Adeiladu

Rhys Jones
Rheolwr Uned
Technegol

Hywel Roberts
Rheolwr Uned
Adeiladu

Rhys Williams
Rheolwr Uned
Busnes

Gareth Wright
Rheolwr Uned
Cyflawni Prosiectau

Rob Williams
Rheolwr Uned
Dŵr ac Amgylchedd
ein CLeientiaid
Dros y blynyddoedd, rydym wedi datblygu perthynas gwaith clôs gydag ystod eang o gleientiaid sy’n cynnwys:




















GYRFA GYDA YGC
Mae gan YGC draddodiad hir o allu cynnig cyfleoedd gyrfa ar gyfer y rhai sy’n dymuno dilyn gyrfa hynod fedrus yn yr amgylchedd adeiledig.
Dros y blynyddoedd, mae YGC wedi buddsoddi’n sylweddol yn ei bobl, gan gynnig i’r rhai sy’n dymuno, y cyfle i ennill neu wella eu cymwysterau academaidd a / neu broffesiynol.
YGC yn credu’n angerddol am gynnal cyflogaeth leol ar draws ystod o ddisgyblaethau ac ar hyn o bryd mae dros 80% o’n staff yn byw yn Sir Gwynedd.
Mae hyn nid yn unig yn golygu ein bod yn gallu cadw pobl fedrus yn y rhanbarth, ond rydym hefyd yn cyfrannu tuag at greu amgylchedd economaidd cynaliadwy trwy sicrhau ein bod yn cadw cyflogaeth leol mewn sectorau gwerth chweil a heriol.environment.
Sicrha hyn bod gan y bobl a gyflogwn gydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith a gall barhau i wneud y cymunedau lleol yn llefydd llewyrchus a bywiog i fyw a gweithio ynddynt.
Tra byddwch yn gweithio i YGC, gallwch fanteisio ar y buddiannau canlynol:

Hyfforddiant a Datblygiad:
Mae YGC yn cydnabod pwysigrwydd buddsoddi yn ei ased pwysicaf – ei phobl. Gall pob gweithiwr YGC ddisgwyl:
-
Proses anwytho ffurfiol ac adolygiad perfformiad blynyddol
-
Amrediad eang o gyfleoedd hyfforddiant a datblygu mewnol ac allanol
-
Cyfraniad tuag at aelodaeth o gyrff proffesiynol sy’n berthnasol â’r gwaith
Cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith:
Mae sicrhau bod gan staff gydbwysedd iach rhwng gwaith a’u bywyd gartref yn bwysig iawn i YGC. Gall staff fanteisio ar y trefniadau a ganlyn:
- Oriau gweithio hyblyg (ble bo’r amgylchiadau yn caniatáu)
- Rhannu Swydd (ble bo’r amgylchiadau yn caniatáu)
- Absenoldeb mamolaeth, tadolaeth a mabwysiadu
- Absenoldeb rhiant a gweithio hyblyg i rieni a gofalwyr
Cynllun Pensiwn:
Mae YGC yn gweithredu Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol. Gellir dod o hyd i wybodaeth am y cynllun ar wefan Cynllun Pensiwn Gwynedd.
Buddion ychwanegol:
Wrth weithio i YGC, ceir nifer o fuddion ychwanegol sy’n cynnwys:
- cyfle i weithio mewn amgylchedd Gymraeg – Cymraeg yw iaith weinyddol swyddogol YGC
- talebau gofal plant, sy’n eithriedig rhag treth ac YG
- cynllun cymorth i brynu car a/neu beic
digwyddiadau codi ymwybyddiaeth am faterion iechyd a lles - cyfleusterau parcio car am ddim
- profion llygaid am ddim i staff sy’n defnyddio sgriniau arddangos yn aml
- Gwasanaeth Cwnsela MEDRA – cwnsela cyfrinachol am ddim i staff
Cyfleon gwaith yn YGC.
Rydym yn chwilio’n barhaus am bobl frwdfrydig ac ymroddedig i ymuno â ni yn YGC.
Os oes gennych diddordeb gweithio i YGC, gyrrwch gopi o’ch CV i ygc@gwynedd.llyw.cymru
Gellir weld ein swyddi gwag cyfredol drwy ddilyn y linc hon