Datganiadau Preifatrwydd
a Chwcis
Mae Cyngor Gwynedd wedi ymrwymo i warchod eich preifatrwydd pan rydych yn defnyddio ein gwasanaethau. Mae’r datganiadau isod yn esbonio sut ydym yn defnyddio eich gwybodaeth, sut rydym yn gwarchod eich preifatrwydd a beth yw eich hawliau.
Beth ydi gwybodaeth bersonol/sensitif?
Pam rydym angen eich gwybodaeth?
Sut mae’r gyfraith yn caniatáu i ni ddefnyddio eich gwybodaeth?
Eich hawliau chi
Pwy sy’n derbyn eich gwybodaeth?
Rydym yn rhannu eich gwybodaeth gyda nifer fawr o sefydliadau allanol er mwyn gallu darparu gwasanaeth i chi.
Byddwn yn dweud wrthych pwy ydi’r sefydliadau wrth gasglu’r wybodaeth gennych.
Weithiau mae gennym ddyletswydd cyfreithiol i rannu gwybodaeth gydag eraill, e.e. llysoedd, Adran Gwaith a Phensiynau, HMRC. Gallwn hefyd rannu gwybodaeth gyda chyrff allanol er mwyn canfod ac atal twyll, er enghraifft, y Fenter Twyll Cenedlaethol.
Dylid nodi y byddwn yn rhannu efo Archwilydd Cyffredinol Cymru mewn cysylltiad a’i waith archwilio ac astudiaethau. O ran gwaith ar y cyd, gall gwybodaeth gael ei rhannu o dan y ddyletswydd a nodir yn adran 33 Mesur Llywodraeth (Cymru) 2009.
Byddwn hefyd yn rhannu gwybodaeth os teimlir fod risgiau penodol i’r cyhoedd neu staff neu i warchod plant neu unigolion bregus.
Rydym wedi arwyddo Cytundeb Fframwaith Bersonol Cymru WASPI sef set o safonau cyson ar gyfer rhannu gwybodaeth am ddefnyddwyr ar draws y sector cyhoeddus, preifat a’r trydydd sector yng Nghymru.
Felly, mewn rhai achosion fe fydd protocol rhannu gwybodaeth penodol o dan fframwaith Cymru. Bydd y cytundeb rhwng y partneriaid i gyd yn esbonio pa wybodaeth sy’n cael ei rhannu, pryd, sut a gyda phwy.
Sut rydym yn gwarchod eich gwybodaeth?
Rydym yn cymryd camau priodol i warchod eich cofnodion, boed nhw ar bapur neu’n electronig.
Gwneir hyn trwy wahanol ffyrdd, e.e. sicrhau bod rheoli mynediad i wybodaeth ar systemau i’r bobl sydd angen gwybod yn unig, trosglwyddo gwybodaeth mewn dulliau priodol (defnyddio amgryptio) a hyfforddi staff.
Pa mor hir rydym yn cadw eich gwybodaeth?
Bydd hyn yn amrywio o wasanaeth i wasanaeth. Mae gennym restr gadw sydd yn datgan am ba mor hir y dylid cadw gwahanol fathau o gofnodion.
Datganiadau preifatrwydd gwasanaethau’r Cyngor.
Cwcis
Mwy o wybodaeth
Am fwy o wybodaeth, neu i wneud cwyn, cysylltwch â Swyddog Diogelu Data’r Cyngor: SwyddogDiogeluData@gwynedd.llyw.cymru
Bydd y swyddog yn gwneud pob ymdrech i ymateb i’ch ymholiad neu gwyn yn y lle cyntaf ond mae gennych yr hawl hefyd i gysylltu efo Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth
Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth,
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Sir Gaer
SK9 5AF
E-bost: casework@ico.gsi.gov.uk
Ffôn: 0303 123 1113.