(01286) 679426 ygc@gwynedd.llyw.cymru

GYRFAOEDD

Ni yw’r ymgynghoriaeth sector cyhoeddus fwyaf yng Nghymru, gan weithio gyda rhestr

helaeth ac amrywiol o gleientiaid, yn y sector cyhoeddus a phreifat.

Rydym wedi sefydlu traddodiad o allu cynnig cyfleoedd gyrfa i’r rhai sy’n dymuno dilyn gyrfa hynod fedrus yn yr amgylchedd adeiledig. 

Dros y blynyddoedd, rydym wedi buddsoddi’n drwm yn ei staff, gan gynnig y cyfle i ennill cymwysterau academaidd a / neu broffesiynol pellach. 

Rydym yn frwd dros gynnal cyflogaeth leol ar draws ystod o ddisgyblaethau ac ar hyn o bryd mae dros 80% o’n staff yn byw yng Ngwynedd. 

Mae hyn nid yn unig yn golygu ein bod yn gallu cadw pobl fedrus yn y rhanbarth, ond rydym hefyd yn cyfrannu tuag at greu amgylchedd economaidd cynaliadwy trwy sicrhau ein bod yn cadw cyflogaeth leol mewn sectorau heriol a gwobrwyol. 

Mae hyn yn sicrhau bod gan y bobl a gyflogwn gydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith a gallwn barhau i gyfrannu at wneud y cymunedau lleol yn lleoedd llewyrchus a bywiog i fyw a gweithio.

workers surveying in a field

swyddi gwag

Cyfleoedd Gwaith

Rydym yn aml yn chwylio am bobl frwdfrydig ac ymroddedig i ymuno â ni.

Os oes gennych ddiddordeb mewn gweithio hefo ni, yna anfonwch gopi o’ch CV at ygc@gwynedd.llyw.cymru

pam ymuno ag YGC?

Gan weithio efo ni, gallwch elwa o’r canlynol:

Cydbwysedd Gwaith-Bywyd

Mae sicrhau bod staff yn cael cydbwysedd iach rhwng gwaith a bywyd cartref yn bwysig iawn i ni. Gall staff fanteisio ar y trefniadau canlynol:

  • Oriau gwaith hyblyg (lle mae amgylchiadau’n caniatáu)

  • Rhannu Swydd (lle mae amgylchiadau’n caniatáu)

  • Lwfans absenoldeb mamolaeth, tadolaeth a mabwysiadu

  • Seibiant rhiant a gweithio hyblyg i rieni a gofalwyr

Hyfforddiant a Datblygiad

Rydym yn cydnabod pwysigrwydd buddsoddi yn ei ased pwysicaf – ei phobol.

Gall pob gweithiwr YGC ddisgwyl:

  • Cyflwyniadau ffurfiol ac adolygiad perfformiad blynyddol

  • Amrywiaeth eang o gyfleoedd hyfforddi a datblygu mewnol ac allanol

  • Cyfraniad tuag at aelodaeth cyrff proffesiynol sy’n berthnasol i’r gwaith

Cynllun Pensiwn

Rydym yn gweithredu Cynllun Penshiwn Llywodraeth Lleol

Gellir dod o hyd i wybodaeth am y cynllun ar wefan Cronfa Bensiwn Gwynedd.

Buddion Ychwangeol

Mae yna nifer o fanteision ychwanegol i weithio i ni, gan gynnwys:

  • Cyfle i weithio mewn amgylchedd iaith Gymraeg – Cymraeg yw iaith weinyddol swyddogol YGC

  • Talebau gofal plant, sydd wedi’u heithrio rhag treth ac YG

  • Cynlluniau prynu car a beic â chymorth

  • Digwyddiadau codi ymwybyddiaeth am faterion iechyd a lles

  • Cyfleusterau parcio am ddim

  • Profion llygaid am ddim i staff sy’n defnyddio sgriniau arddangos yn rheolaidd

  • Gwasanaeth Cwnsela MEDRA – Cynghori am ddim a chyfrinachol ar gyfer staff

prentisiaeth

Ai prentisiaeth yw’r cam nesaf i chi?

Gwnewch y dewis doeth, dewisiwch brentisiaeth yng Nghyngor Gwynedd.

Mae prentisiaeth yn gyfle i chi ddatblygu eich gyrfa drwy weithio gyda phobl brofiadol, derbyn cymwysterau a chael cyflog yr un pryd!

Mae cyfleoedd prentisiaeth gyda ni yn ran o raglen Prentisiaeth Cyngor Gwynedd.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma ar  Wefan Cyngor Gwynedd

 

Prentisiaeth Peirianneg Sifil banner, Dynas ar bont yn gwisgo high vis

profiad gwaith

Mae YGC yn falch iawn o gynnig cyfnod o Brofiad Gwaith i nifer o ddisgyblion ysgol a myfyrwyr coleg ers nifer o flynyddoedd.  Mae Profiad Gwaith gyda’r Gwasanaeth yn rhoi profiad gwych o weithio mewn sefydliad prysur a diddorol a dysgu gan Beirianwyr a Syrfewyr profiadol.

Rydym yn ffurfio amserlen a gweithgareddau ymarferol sydd yn rhoi profiad o’r math o brosiectau y mae’r Ymgynghoriaeth rheoli.

Mae profiad gwaith yn cynnig y cyfle i chi gael blasu y byd gwaith a chael cyfle i weld beth i ddisgwyl wrth weithio i YGC / Cyngor Gwynedd. 

  Prif bwrpas profiad gwaith ydi:

  • I godi ymwybyddiaeth o YGC fel cyflogwr teg ac yn lle da i weithio
  • I sicrhau bod unigolion yn cael blas “go iawn” o weithio i YGC
  • I gefnogi pobl i ddatblygu sgiliau byd gwaith
  • I gyfathrebu llwybrau gyrfa glir
Cyfnod yr Haf

Bydd YGC yn cynnig 2 gyfnod Profiad Gwaith yn flynyddol, y cyntaf i gyd-fynd gyda Phrofiad Gwaith ysgolion diwedd Mehefin i ganol Gorffennaf.  Mae’r cyfnod yma yn agored i ddisgyblion ysgol a coleg ar ffurf ‘cyntaf i’r felin’.  Er mwyn rhaglennu gwaith ac am resymau Iechyd a Diogelwch, mae rhaid i ni gyfyngu’r niferoedd o leoliadau sydd ar gael ar y tro.

Cyfnod hanner tymor mis Hydref

Mae’r ail gyfnod ar gyfer myfyrwyr coleg sydd yn astudio pwnc perthnasol a phenodol ar gyfer meysydd gwaith YGC, e.e. B-Tech neu HNC/HND mewn Peirianneg Sifil.  Mae’r cyfnod yma hefyd yn agored i fyfyrwyr coleg ar ffurf ‘cyntaf i’r felin’.  Er mwyn rhaglennu gwaith ac am resymau Iechyd a Diogelwch, mae rhaid i ni gyfyngu’r niferoedd o leoliadau sydd ar gael ar y tro.

Gwirfoddoli neu swydd Technegydd Iau dros dro

O dro i dro, bydd YGC yn cynnig cyfnod i fyfyrwyr wirfoddoli fel rhan o’i gwaith coleg neu brifysgol, neu dderbyn swydd dros dro yn ystod cyfnod gwyliau.  Mae’r cyfleodd yma yn ddibynnol ar argaeledd staff YGC ac angen busnes.

Ar hyn o bryd, mae cyfnod cyflwyno cais am Brofiad Gwaith gyda YGC ar gau.

Dyma linc i ffurflen gais am Brofiad Gwaith / Gwirfoddoli gyda YGC. 

Nid yw llenwi a chyflwyno’r ffurflen gais hon yn sicrhau y cewch chi leoliad profiad gwaith efo Cyngor Gwynedd. Oherwydd gwahanol resymau, mae cyfleoedd yn brin ar hyn o bryd.

Mae rhagor o wybodaeth am gyfleon Profiad Gwaith gydag Adrannau eraill o Gyngor Gwynedd ar gael yma