GYRFAOEDD
Ni yw’r ymgynghoriaeth sector cyhoeddus fwyaf yng Nghymru, gan weithio gyda rhestr
helaeth ac amrywiol o gleientiaid, yn y sector cyhoeddus a phreifat.
Rydym wedi sefydlu traddodiad o allu cynnig cyfleoedd gyrfa i’r rhai sy’n dymuno dilyn gyrfa hynod fedrus yn yr amgylchedd adeiledig.
Dros y blynyddoedd, rydym wedi buddsoddi’n drwm yn ei staff, gan gynnig y cyfle i ennill cymwysterau academaidd a / neu broffesiynol pellach.
Rydym yn frwd dros gynnal cyflogaeth leol ar draws ystod o ddisgyblaethau ac ar hyn o bryd mae dros 80% o’n staff yn byw yng Ngwynedd.
Mae hyn nid yn unig yn golygu ein bod yn gallu cadw pobl fedrus yn y rhanbarth, ond rydym hefyd yn cyfrannu tuag at greu amgylchedd economaidd cynaliadwy trwy sicrhau ein bod yn cadw cyflogaeth leol mewn sectorau heriol a gwobrwyol.
Mae hyn yn sicrhau bod gan y bobl a gyflogwn gydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith a gallwn barhau i gyfrannu at wneud y cymunedau lleol yn lleoedd llewyrchus a bywiog i fyw a gweithio.

swyddi gwag
Cyfleoedd Gwaith
Rydym yn aml yn chwylio am bobl frwdfrydig ac ymroddedig i ymuno â ni.
Teitl swydd: Swyddog Gorfodaeth Gwasanaethau Stryd
Dyddiad cau: 11/10/2023 10:00
Math Swydd/Oriau: Parhaol | 37 Awr
Cyflog: £32,909 – £34,723 y flwyddyn
Lleoliad(au): Depo Priffyrdd Caernarfon
Cliciwch yma i ymgeisio
Os oes gennych ddiddordeb mewn gweithio hefo ni, yna anfonwch gopi o’ch CV at ygc@gwynedd.llyw.cymru
pam ymuno ag YGC?
Gan weithio efo ni, gallwch elwa o’r canlynol:
Cydbwysedd Gwaith-Bywyd
Mae sicrhau bod staff yn cael cydbwysedd iach rhwng gwaith a bywyd cartref yn bwysig iawn i ni. Gall staff fanteisio ar y trefniadau canlynol:
Oriau gwaith hyblyg (lle mae amgylchiadau’n caniatáu)
Rhannu Swydd (lle mae amgylchiadau’n caniatáu)
Lwfans absenoldeb mamolaeth, tadolaeth a mabwysiadu
Seibiant rhiant a gweithio hyblyg i rieni a gofalwyr
Hyfforddiant a Datblygiad
Rydym yn cydnabod pwysigrwydd buddsoddi yn ei ased pwysicaf – ei phobol.
Gall pob gweithiwr YGC ddisgwyl:
Cyflwyniadau ffurfiol ac adolygiad perfformiad blynyddol
Amrywiaeth eang o gyfleoedd hyfforddi a datblygu mewnol ac allanol
Cyfraniad tuag at aelodaeth cyrff proffesiynol sy’n berthnasol i’r gwaith
Cynllun Pensiwn
Rydym yn gweithredu Cynllun Penshiwn Llywodraeth Lleol
Gellir dod o hyd i wybodaeth am y cynllun ar wefan Cronfa Bensiwn Gwynedd.
Buddion Ychwangeol
Mae yna nifer o fanteision ychwanegol i weithio i ni, gan gynnwys:
Cyfle i weithio mewn amgylchedd iaith Gymraeg – Cymraeg yw iaith weinyddol swyddogol YGC
Talebau gofal plant, sydd wedi’u heithrio rhag treth ac YG
Cynlluniau prynu car a beic â chymorth
Digwyddiadau codi ymwybyddiaeth am faterion iechyd a lles
Cyfleusterau parcio am ddim
Profion llygaid am ddim i staff sy’n defnyddio sgriniau arddangos yn rheolaidd
Gwasanaeth Cwnsela MEDRA – Cynghori am ddim a chyfrinachol ar gyfer staff
prentisiaeth
Ai prentisiaeth yw’r cam nesaf i chi?
Gwnewch y dewis doeth, dewisiwch brentisiaeth yng Nghyngor Gwynedd.
Mae prentisiaeth yn gyfle i chi ddatblygu eich gyrfa drwy weithio gyda phobl brofiadol, derbyn cymwysterau a chael cyflog yr un pryd!
Mae cyfleoedd prentisiaeth gyda ni yn ran o raglen Prentisiaeth Cyngor Gwynedd.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma ar Wefan Cyngor Gwynedd


(01286) 679426

