(01286) 679426 ygc@gwynedd.llyw.cymru

Cyrraedd rownd derfynol Gwobrau Pontydd y ‘New Civil Engineer’ 2026

Llun o prosiect Pont Llanrhystud 

Rydym wedi cyrraedd rownd derfynol Gwobrau Pontydd y ‘New Civil Engineer’ 2026!

Mae enwebiad YGC – Tomograffeg Muon ar gyfer Rheolaeth Pont Ól-tensiynu – Pont Llanrhystud wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobr Arloesedd ym maes Archwilio Pontydd y flwyddyn, ac rydym yn hapus iawn yn ei gylch!

Llongyfarchiadau hefyd i bawb sydd wedi cyrraedd y rhestr fer, ac edrychwn ymlaen at fynychu’r seremoni ym mis Gorffennaf.

Am ragor o wybodaeth am waith YGC dilynwch y gwasanaeth ar Facebook, Instagram neu ewch draw i wefan y gwasanaeth https://ygc.cymru/