(01286) 679426 ygc@gwynedd.llyw.cymru

Enillydd y Wobr am Amrywiaeth yng Ngwobrau ICE Cymru 2025 ar gyfer YGC – Cynllun Atal Llifogydd Hirael Bangor

Llun o Rob Williams (Rheolwr Gwasanaeth Dŵr ac Amgylchedd yn YGC), Steffan Jones (Pennaeth Priffyrdd, Peirianneg ac YGC), Emyr Gareth (Peiriannydd), Elen Mai Williamson (Cynorthwyydd Technegol), Sion Arwel Jones (Rheolwr Datblygu Busnes) a Griffiths

Rydym yn falch o gyhoeddi ein bod wedi Ennill Gwobr am Amrywiaeth yng Ngwobrau’r ICE Wales Cymru 2025 ar gyfer cynllun Atal Llifogydd Hirael Bangor, ac rydym yn hapus iawn amdano!

Llongyfarchiadau i bawb!

Manylion y prosiect

Mae YGC wedi cwblhau prosiect gwerth bron i £6 miliwn fydd yn diogelu ardal Hirael ym Mangor rhag effeithiau llifogydd arfordirol ac yn gwella adnoddau hamdden lleol.

Roedd peirianwyr YGC yn gyfrifol am y gwaith i godi waliau a gosod giatiau llifogydd newydd; codi lefel y promenâd a chreu llithrfa newydd; a chreu llwybr beicio ac adnoddau hamdden eraill yn yr ardal.

Bwriad y gwaith yw amddiffyn bron i 200 eiddo domestig a masnachol yn yr ardal hon o Fangor rhag llifogydd arfordirol – problem sy’n debygol o ddwysau wrth i lefel y môr godi a thywydd eithafol ddod i fod yn fwy cyffredin, oherwydd newid hinsawdd.

Ariannwyd y gwaith drwy Rhaglen Rheoli Risgiau Arfordirol Llywodraeth Cymru.

Gwobr Cynaliadwyedd Bill Ward 2025

Fel rhan o’r prosiect bu i Beirianwyr o  YGC ymweld ac Ysgol Hirael i siarad efo’r plant am effeithiau newid hinsawdd ar ein cymunedau a sut mae gwaith peirianyddol, fel y prosiect hwn yn Hirael, yn gallu amddiffyn isadeiledd lleol.

Yn ystod y gwaith, gwnaed gwaith i warchod ffigysbren hynod oedd yn tyfu o’r hen wal fôr yn Hirael drwy ei symud – dan oruchwyliaeth arbenigwyr coedyddiaeth – i lecyn i’r de o faes parcio dwyreiniol Lôn y Traeth.

YGC oedd yn rheoli’r prosiect ac yn darparu cymorth dylunio. Penodwyd cwmni Griffiths Construction i wneud y gwaith ar y safle.

Dilynwyd mesurau amgylcheddol llym drwy gydol y broses adeiladu a chafwyd trwydded forol ar gyfer y gwaith gan Cyfoeth Naturiol Cymru.

Mae mwy o wybodaeth ar gael ar wefan Hirael.

Am ragor o wybodaeth am waith YGC dilynwch y gwasanaeth ar Facebook, Instagram neu ewch draw i wefan y gwasanaeth https://ygc.cymru/