YGC yn cipio Gwobr Uchelgeisiol Arloesedd yn Ngwobrau Pontydd NCE 2026
Llun o Tîm YGC, Topbond a GScan yn derbyn y wobr
Mae YGC, mewn partneriaeth â Topbond a GScan, wedi ennill gwobr Arloesedd y Flwyddyn mewn Arolygu Pontydd yng Ngwobrau Pontydd NCE 2026.
Roedd gwobrau eleni yn dathlu’r cyflawniadau a’r datblygiadau mwyaf arloesol yn y sector pontydd, gyda’r ceisiadau’n amlygu’r dalent, y cydweithio a’r uchelgais sy’n siapio dyfodol y diwydiant.
Yn dilyn proses feirniadu drylwyr gan banel o dros 40 o arbenigwyr y maes, cyhoeddwyd yr enillwyr ar 16 Gorffennaf 2026 mewn seremoni yng Ngwesty Hilton Bankside, Llundain. Daeth arweinwyr a gweithwyr proffesiynol o bob rhan o’r diwydiant ynghyd i ddathlu cyflawniadau eithriadol y flwyddyn.
Cyflwynwyd y wobr Arloesedd y Flwyddyn mewn Arolygu Pontydd i YGC am y prosiect Tomograffeg Muon ar gyfer Rheoli Pontydd Ôl-Densiynu – Pont Llanrhystud.
Wrth sôn am y gwobrau, dywedodd Gavin Pearson, golygydd nodweddion NCE:
“Pontydd yw rhai o symbolau mwyaf amlwg rhwydweithiau’r byd. Maent yn cysylltu cymunedau, yn cefnogi economïau ac yn galluogi pobl, nwyddau a syniadau i symud o le i le. Mae hyn oll yn bosibl diolch i arbenigedd, creadigrwydd ac ymroddiad y bobl sy’n cynllunio, adeiladu a chynnal y strwythurau hanfodol hyn.
Ar draws y sector, mae sefydliadau’n ailddiffinio’r hyn sy’n bosibl ym maes pontydd drwy fabwysiadu technolegau newydd, cryfhau partneriaethau a datblygu dulliau mwy effeithiol o greu a chynnal isadeiledd a fydd yn gwasanaethu cenedlaethau’r dyfodol.
Roedd ceisiadau eleni yn adlewyrchu’r uchelgais, yr arloesedd a’r ymrwymiad sy’n gyrru peirianneg pontydd yn ei blaen. O brosiectau arloesol i gyflawniadau unigol eithriadol, roedd y safon yn arbennig o uchel ac yn dangos y dalent, yr arbenigedd a’r weledigaeth sy’n siapio dyfodol y diwydiant.
Roedd dewis yr enillwyr yn dasg heriol i’r beirniaid, gan fod pob cais yn dangos cyfraniad gwerthfawr i ddatblygiad peirianneg pontydd. Mae eu hymroddiad a’u syniadau newydd yn rhoi hyder y bydd y genhedlaeth nesaf o beirianwyr yn parhau i ddarparu’r isadeiledd gwydn, cynaliadwy a thrawsnewidiol sydd ei angen ar y byd.”
I gael rhagor o wybodaeth am Wobrau Pontydd NCE 2026, ewch i: https://bridges.newcivilengineer.com/ncbr26/en/page/home
Mae rhestr lawn o enillwyr 2026 ar gael drwy dudalen
Am ragor o wybodaeth am waith YGC dilynwch y gwasanaeth ar Facebook, Instagram neu ewch draw i wefan y gwasanaeth https://ygc.cymru/