Gynhadledd Ryngwladol ar Ddiffygion Strwythurol + Atgyweirio a Chynhadledd Pontydd Ewrop 2026 yng Nghaeredin
Llun o Osian Richards
Cynhaliwyd 20fed Gynhadledd Ryngwladol ar Ddiffygion Strwythurol + Atgyweirio a Chynhadledd Pontydd Ewrop 2026 yng Nghaeredin yn ddiweddar. Cynrychiolwyd YGC gan Osian Richards – Uwch Beiriannydd YGC gan roi cyflwyniad ar y cyd gyda GScan.
Roedd y gynhadledd yn cynnwys cyflwyniadau gan ymarferwyr a chydweithwyr academaidd blaenllaw o bob cwr o’r byd, gan gwmpasu popeth o archwilio pontydd ôl-densiwn a sgwrio, i fonitro iechyd strwythurol (SHM) gyda chymorth deallusrwydd artiffisial a strwythurau bwa carreg.
Roedd hyn yn gyfle i ddysgu am ddatblygiadau ym maes rheoli strwythurau. Diolch arbennig i Mike ag Edna Ford am drefnu’r Gynhadledd.
Am ragor o wybodaeth am waith YGC dilynwch y gwasanaeth ar Facebook, Instagram neu ewch draw i wefan y gwasanaeth https://ygc.cymru/