Fforwm Perchnogion Pontydd yng Ngogledd Orllewin Cymru’r
Llun o Fforwm Perchnogion Pontydd yng Ngogledd Cymru
“Roedd yn fraint cyd-gynnal Fforwm Perchnogion Pontydd yng Ngogledd Orllewin Cymru’r wythnos diwethaf,” meddai Osian Richards, Uwch Beiriannydd yn YGC.
“Cawsom gyfle i ymweld â safleoedd eiconig iawn, gan gynnwys Gweithdy Boston Rheilffordd Ucheldir Cymru, Cob Porthmadog, Pont Grog y Borth, a Phont Britannia – pob un yn dyst i beirianneg wych, hanes cyfoethog, a phŵer isadeiledd i gysylltu pobl a lleoedd.
Diolch arbennig i bawb a ymunodd â ni, rannodd wybodaeth, a gyfrannodd at rai o’r trafodaethau gwych am ddyfodol ein pontydd a’r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu.”
Am ragor o wybodaeth am waith YGC dilynwch y gwasanaeth ar Facebook, Instagram neu ewch draw i wefan y gwasanaeth https://ygc.cymru/