YGC yn Ymuno â Fforwm Niwclear Cymru
Llun o Steffan Pennaeth Priffyrdd, Peirianneg ac YGC, Emlyn Pennaeth Cynorthwyol YGC ac Sion Rheolwr Datblygu Busnes
Rydym yn falch o gyhoeddi bod YGC wedi ymuno â Fforwm Niwclear Cymru, gan gryfhau ein hymrwymiad i gefnogi twf a datblygiad y sector niwclear yng Nghymru.
Yr wythnos ddiwethaf, bu aelodau o’n tîm yn mynychu digwyddiad y Fforwm yn M-SParc, Ynys Môn, lle daeth arweinwyr y diwydiant, partneriaid yn y gadwyn gyflenwi a rhanddeiliaid ynghyd i drafod y cyfleoedd a’r heriau sy’n wynebu’r sector. Roedd y digwyddiad yn gyfle gwych i gael gwybodaeth gwerthfawr i ddyfodol y diwydiant a’r rôl allweddol y gall ynni niwclear ei chwarae wrth gefnogi dyfodol ynni carbon isel.
Fel ymgynghoriaeth amlddisgyblaethol, rydym yn edrych ymlaen at gydweithio â sefydliadau eraill o fewn y Fforwm, adeiladu cysylltiadau newydd a chyfrannu ein harbenigedd i gefnogi twf y sector yng Nghymru.
Diolch i Fforwm Niwclear Cymru am gynnal digwyddiad gwych a llawn gwybodaeth. Edrychwn ymlaen at fod yn rhan weithredol o’r rhwydwaith ac at y cyfleoedd sydd o’n blaenau.
Am ragor o wybodaeth am waith YGC dilynwch y gwasanaeth ar Facebook, Instagram neu ewch draw i wefan y gwasanaeth https://ygc.cymru/