Mae YGC yn cefnogi ICE North Wales Graduates Student Technicians

Dyma lun o Bethany, Alicia ac Alfie
Llongyfarchiadau i Gadeirydd newydd ‘ICE North Wales Graduates Student Technicians’ sef Bethany Griffiths. Mae Beth bellach yn gweithio fel Peiriannydd Cynorthwyol gyda ni, ac wedi’i hethol yn aelod o Gyngor ICE ers 2022. Yn ogystal mae hi’n ferch cyntaf fel Cadeirydd yr ICE!
Dyma be oedd gan Bethany ei ddweud “Dwi wedi bod yn aelod gweithgar o Bwyllgor Myfyrwyr, Graddedigion a Thechnegwyr Gogledd Cymru ICE ers 2018. Trwy gydol fy amser ar y pwyllgor, rydw i wedi cyflawni rolau ysgrifennydd ac is-gadeirydd. Rwyf yn awr yn eistedd fel y Cadeirydd, a gobeithiaf adael effaith. Fy nod yw cyflwyno digwyddiadau llwyddiannus, gweithdai ac ymweliadau ag ysgolion a cholegau i gynrychioli’r ICE a helpu unigolion.
Boed hynny’n hyrwyddo Peirianneg Sifil i fyfyrwyr ifanc i danio diddordeb o fewn y diwydiant i adeiladu eu dyfodol o gwmpas, neu i helpu unigolion gyda’u taith cymhwyster proffesiynol. Mae’r pwyllgor wedi fy helpu i ennill Cymhwyster proffesiynol Eng.Tech ac rwy’n gobeithio cyflwyno fy nghais I. Eng ar ôl cwblhau’r Brifysgol, rwy’n gobeithio helpu eraill ar hyd y ffordd.
Edrychaf ymlaen at eleni fel cadeirydd, gan fod gweithdai ac ymweliadau ysgol eisoes wedi cychwyn, mae digwyddiad cyffrous yn cael ei gynllunio ac rydym yn gobeithio ymweld ag One Great George Street, Llundain fel pwyllgor! Rwy’n ddiolchgar fy mod yn y sefyllfa hon, gyda chymorth y bobl wych yn y pwyllgor o’m cwmpas.”
Llongyfarchiadau i Alicia Roberts Allsup sy’n aelod diweddaraf o ‘ICE North Wales Graduates Student Technicians’ fel Ysgrifennydd newydd. Mae Alicia yn gweithio fel Peiriannydd Cynorthwyol o fewn y tîm Cyflawni Prosiectau. Mae hi’n ymwneud â dylunio a gweithredu gwaith gwella draenio priffyrdd a chynlluniau meysydd parcio, yn ogystal â gwaith dylunio ar gynlluniau Teithio Llesol.
Dyma be oedd gan Alicia ei ddweud “Ar ôl ymuno â Phwyllgor GSAT eleni, cefais y cyfle i fod yn Ysgrifennydd. Rwy’n edrych ymlaen at ddatblygu o fewn y pwyllgor ac i weithio gyda’r aelodau. Yn ogystal, rwy’n falch o fod yn gweithio ochr yn ochr â Chadeirydd ac Is-Gadeirydd benywaidd, gan gynyddu amlygrwydd Menywod mewn Peirianneg, gobeithio.
Ar hyn o bryd rwyf yn fy mlwyddyn olaf o Radd Meistr rhan-amser mewn Peirianneg Sifil a’r cam nesaf yw cyflwyniad CEng. Mae bod yn rhan o’r Pwyllgor yn help mawr i allu cael a rhannu syniadau gyda darpar beirianwyr eraill.”
Llongyfarchiadau i aelod newydd o’r pwyllgor, Alfie Waiting. Mae Alfie yn gweithio gyda YGC fel Peiriannydd Prosiect o fewn y tîm Cyflawni Prosiectau. Mae gan Alfie fwy na 7 blynedd o brofiad gweithio yn y diwydiant Peirianneg Sifil gan ddechrau fel Peiriannydd Parhaol ar y Rheilffordd a chwblhau HNC mewn Peirianneg Sifil.
Dyma be oedd gan Alfie ei ddweud “Mae’n bleser bod yn rhan o Bwyllgor GSAT a mynychu digwyddiadau ICE. Fy nod yw cyflwyno fy nghais EngTech cyn diwedd y flwyddyn ac rwy’n gobeithio cael fy adolygiad yn gynnar yn 2024. Mae bod yn rhan o’r Pwyllgor yn help mawr i allu cael a rhannu syniadau gyda darpar beirianwyr eraill.”