(01286) 679426 ygc@gwynedd.llyw.cymru

Llwyddiant i wasanaeth o Wynedd yng Ngwobrau Adeiladu Arbenigrwydd 2024 

Mae YGC (Ymgynghoriaeth Gwynedd Consultancy) wedi dod i’r brig yng nghategori Gwobr Arloesedd 2024: Monitro Lefelau Dŵr Gwynedd o bell ar gyfer Rheoli Asedau yn Celtic Manor nos Wener 14 o Fehefin.

Llun o Sion, Robin, Bethany ac Elen yn derbyn y wobr 

Dywedodd Adeiladu Arbenigrwydd yng Nghymru “ Llongyfarchiadau i’n henillwyr, cyflawnwr rhagorol a chanmoliaeth uchel, diolch i chi am eich ymroddiad, ymrwymiad, a pharodrwydd i arddangos arfer gorau trwy’r gwobrau.

Roedd dros 400 o gefnogwyr CEWales yn bresennol i weld ein enillwyr rhagorol, rhai â chymeradwyaeth uchel ac un cyflawnwr rhagorol. Yr hyn a oedd yn amlwg i ni fel trefnwyr oedd yr awydd i rannu arfer da, syniadau a dathlu nid yn unig arfer gorau ond Cymru ei hun. Llongyfarchiadau i chi gyd!”

Llun o Sion, Elen, Bethany ac Robin gyda’r wobr 

Dywedodd y Cynghorydd Berwyn Jones, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd sy’n gyfrifol am Wasanaeth Ymgynghoriaeth Gwynedd:

“Llongyfarchiadau mawr i Wasanaeth YGC – Ymgynhoriaeth Gwynedd Consultancy am eu llwyddiant. Mae mor braf gweld cydnabyddiaeth am yr holl waith caled mae gweithwyr y gwasanaeth yn ei gyflawni yma yng Ngwynedd.”

Am ragor o wybodaeth am waith YGC dilynwch y gwasanaeth ar Facebook, X neu ewch draw i wefan y gwasanaeth https://ygc.cymru/