(01286) 679426 ygc@gwynedd.llyw.cymru

DATGANIAD I’R WASG – GWYNEDD

Gwaith lliniaru llifogydd Rhostryfan yn cychwyn

Mae gwaith ar brosiect pwysig lliniaru llifogydd gwerth £1 miliwn wedi cychwyn ym mhentref Rhostryfan ger Caernarfon.

Mae Cyngor Gwynedd wedi datblygu’r cynllun sydd yn cael ei ariannu ar y cyd â Llywodraeth Cymru yn dilyn achosion o lifogydd a effeithiodd ar sawl eiddo yn y pentref ym mis Tachwedd 2012.

Roedd lefelau uchel iawn o ddŵr yn Afon Wyled wedi cyfnod o law trwm wedi achosi i dalpiau mawr o falurion ddod lawr yr afon yn 2012, gan beri i’r sgrîn atal malurion flocio. Yna daeth y dŵr dros waliau’r afon a gorlifo’r eiddo cyfagos a’r briffordd.

Fel rhan o’r prosiect lliniaru llifogydd, bydd contractwyr yn gosod cylfat blwch sengl newydd yn lle’r sgrin cylfat gefell a malurion gyfredol sydd wedi’i lleoli yn y sgwâr yn y pentref. Bydd gan y cylfat blwch sengl newydd mwy o gapasiti, ac ni fydd angen sgrin malurion arno.

Bydd y prosiect hefyd yn golygu ailosod y bont droed sy’n croesi i Ystad Bro Wyled ac yn disodli pont fynediad breifat i Cae Rhug. Disgwylir y bydd y gwaith lliniaru llifogydd yn cymryd tua phedwar mis i’w gwblhau.

Dywedodd y Cynghorydd Dyfrig Siencyn, Arweinydd Cyngor Gwynedd: “Rwy’n falch iawn o weld y prosiect lliniaru llifogydd yma’n cychwyn. Mae’r prosiect pwysig hwn yn hynod bwysig i bobl Rhostryfan a gobeithio y bydd yn rhoi tawelwch meddwl i drigolion sy’n byw yn yr ardal bod gwell mesurau lliniaru llifogydd yn cael eu rhoi ar waith.

“Mae Rhostryfan wedi gweld ei siar o lifogydd dros y blynyddoedd, ac mae peirianwyr o Adran YGC y Cyngor wedi gweithio’n galed i ddatblygu’r prosiect pwysig yma. Bydd yn amddiffyn 38 eiddo ac yn gwella sefydlogrwydd strwythurol y briffordd sy’n croesi’r cylfat yn y sgwâr yn Rhostryfan.

“Mae ein swyddogion a’r contractwyr sy’n gwneud y gwaith wedi rhannu gwybodaeth am y prosiect gyda thrigolion lleol a bydd gwybodaeth bellach ar gael trwy gydol y gwaith fel bod pobl leol yn ymwybodol o’r datblygiadau diweddaraf. Edrychaf ymlaen at weld y prosiect yn siapio dros yr wythnosau nesaf.”

Meddai Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: “Rwy’n falch iawn o nodi bod gwaith ar gyfer yr amddiffynfeydd newydd yn Rhostryfan yn mynd rhagddo, a hoffwn ddiolch i Gyngor Gwynedd am eu gwaith parhaus ar y prosiect hwn yn ystod y pandemig.

“Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo ymhell dros £1 miliwn o gyllid yn y blynyddoedd diwethaf tuag at waith dylunio, datblygu ac adeiladu y prosiect, ac mae’n un o nifer o brosiectau trwy Gymru a fydd yn helpu i amddiffyn cymunedau rhag llifogydd sylweddol.

“Fel llywodraeth, rydym eisiau ei gwneud hi mor rhwydd â phosib i gynghorau lleol i fwrw ymlaen a chynllunio ar gyfer gwaith o’r fath, a dyna pam y gwnaethom gynyddu’r cyllid sydd ar gael drwy ein Rhaglenni Rheoli Llifogydd a Risgiau Arfordirol yn gynharach eleni.

“Bellach mae’r holl waith paratoi ar gyfer cynlluniau yn cael ei ariannu 100% gan Lywodraeth Cymru, tra bod ein cyfraniad tuag at gynlluniau arfordirol wedi cynyddu o 75% i 85%. Bydd hyn yn caniatáu i awdurdodau lleol sydd dan bwysau fod yn fwy rhagweithiol wrth gynllunio amddiffynfeydd llifogydd yn y dyfodol, gan gofio am stormydd mis Chwefror a’r pandemig coronafeirws sydd ohoni.”

Fel rhan o’r cynllun yn Rhostryfan, bydd mesurau atgyweirio ac amddiffyn sgwrio yn cael eu gwneud i waliau’r sianel ar gyfer darn o tua 100 metr i fyny’r afon o’r cwlfert. Bydd hyn yn cynyddu sefydlogrwydd strwythurol waliau’r sianel ac yn lleihau’r risg y bydd creigiau mawr yn cael eu golchi ymhellach i lawr yr afon.

Mae’r gwaith lliniaru llifogydd yn cael ei wneud ar gyfer Cyngor Gwynedd gan gontractwyr, Alun Griffith Cyf mewn ffordd sy’n cydymffurfio’n llawn â chanllawiau cyfredol y Llywodraeth ar bellhau cymdeithasol.

Dywedodd Cyfarwyddwr Gweithredol y cwmni, Martyn Evans: “Rydym yn falch bod y gwaith  cyflawni’r gwaith lliniaru llifogydd hanfodol hwn ar gyfer pentref Rhostryfan ar fin dechrau.

“Rydym yn parhau i fod wedi ymrwymo i leihau effaith ar drigolion a busnesau lleol yn ystod y gwaith adeiladu. Bydd ein Swyddog Ymgysylltu â’r Gymuned yn defnyddio dulliau digyswllt newydd o ymgysylltu â rhanddeiliaid a fydd yn rhoi gwybodaeth a diweddariad i bawb.

“Rydym wedi ymgorffori mesurau diogelwch ychwanegol o ganlyniad i’r Coronafeirws sy’n mynd y tu hwnt i ganllawiau cyfredol y Llywodraeth, yn amddiffyn ein gweithlu a’r gymuned leol.

“Edrychwn ymlaen at ddechrau gweithio a gwneud y mwyaf o fuddiannau’r prosiect, fel cyfleoedd cyflogaeth a chadwyn gyflenwi leol.”

Mae croeso i drigolion Rhostryfan sydd eisiau mwy o wybodaeth am y prosiect gysylltu â Mandy Evans o Alun Griffiths Cyf: e-bost – mandy.evans@alungriffiths.co.uk, ffôn – 03300412185.

Gall unrhyw un sy’n pryderu am lifogydd ganfod beth yw ei risg llifogydd a chofrestru i dderbyn rhybuddion llifogydd am ddim drwy ffonio Floodline ar 0345 988 1188 neu drwy fynd i www.naturalresources.wales/flooding