Agoriad Swyddogol Cynllun Atal Llifogydd Hirael
Mae Cyngor Gwynedd wedi cwblhau prosiect gwerth bron i £6 miliwn fydd yn diogelu ardal Hirael ym Mangor rhag effeithiau llifogydd arfordirol ac yn gwella adnoddau hamdden lleol.
Dros y 10 mis diwethaf, mae peirianwyr YGC wedi bod yn gyfrifol am y gwaith i godi waliau a gosod giatiau llifogydd newydd; codi lefel y promenâd a chreu llithrfa newydd; a chreu llwybr beicio ac adnoddau hamdden eraill yn yr ardal.
Agoriad swyddogol Cynllun Atal Llifogydd Hirael. Yn y llun mae’r Maer Dinas Bangor Cynghorydd Gareth Parry, y cyn Gadeirydd Cyngor Gwynedd Cynghorydd Medwyn Hughes, Cadeirydd Cyngor Gwynedd, Cynghorydd Beca Roberts ac Huw Irranca Davies AS, Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig.
Bwriad y gwaith yw amddiffyn bron i 200 eiddo domestig a masnachol yn yr ardal hon o Fangor rhag llifogydd arfordirol – problem sy’n debygol o ddwysau wrth i lefel y môr godi a thywydd eithafol ddod i fod yn fwy cyffredin, oherwydd newid hinsawdd.
Ariannwyd y gwaith drwy Rhaglen Rheoli Risgiau Arfordirol Llywodraeth Cymru.
Daeth y gymuned at ei gilydd i ddathlu cwblhau’r prosiect ac i ddysgu mwy am y gwaith. Dadorchuddiwyd plac i nodi’r achlysur gan Gadeirydd Cyngor Gwynedd, y Cynghorydd Beca Roberts.
Peirianwyr a staff YGC ar y promenâd.
Dywedodd y Cynghorydd Berwyn Parry Jones, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros yr Adran Priffyrdd, Peirianneg ac YGC: “Mae’r gwaith pwysig yma yn lliniaru rhag perygl llifogydd yn ardal Hirael o Fangor ac mae o fudd i’r gymuned gyfan.
“Dwi’n siŵr bydd pobl leol yn manteisio yn ogystal ar y gwelliannau hamdden sydd wedi eu gwneud yn sgil y gwaith, gan gynnwys creu llwybr newydd i gerddwyr a beicwyr a gosod meinciau newydd o gwmpas y promenâd.
“Mae Llwybr Arfordir Cymru a’r Llwybr Beicio Cenedlaethol yn mynd ar hyd y promenâd, dafliad carreg o Hirael, felly mae’r prosiect hwn yn gyfle gwych i wella cysylltiadau â’r ddau atyniad pwysig yma.”
Ychwanegodd y Cynghorydd Berwyn Parry Jones: “Unwaith bydd y gwaith o wella’r system garthffosiaeth yn yr ardal wedi ei gwblhau gan Dŵr Cymru, bydd ein swyddogion yn gallu dychwelyd i Lôn Glan y Môr i orffen mân waith.”
Plac Swyddogol Hirael
Dywedodd Huw Irranca Davies AS, Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig:
“Roedd yn wych ymweld â chynllun Bae Hirael a fydd yn lleihau’r perygl o lifogydd arfordirol i bron i 200 o gartrefi a busnesau.
“Cefais weld a’m llygaid fy hun hefyd sut y bydd y cynllun o fudd i’r gymuned drwy greu llwybr teithio llesol, sy’n cysylltu’r llwybr beicio a’r llwybr arfordirol o Eryri drwodd i Bier Bangor.
“Rydym wedi buddsoddi’n sylweddol i wella seilwaith amddiffyn arfordirol Cymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf drwy fuddsoddiad ein Rhaglen Rheoli Risg Arfordirol (CRMP), gyda gwerth £291 miliwn o fuddsoddiad dros bum mlynedd, ac unwaith y bydd pob un o’r 15 cynllun ledled Cymru wedi’u gorffen bydd o fudd i bron i 14,000 eiddo.”
Dyma Beirianwyr o Wasanaeth YGC Cyngor Gwynedd yn dangos un o’r giatiau atal llifogydd yn cael ei agor a cau.
Fel rhan o’r prosiect mae Peirianwyr o Adran YGC Cyngor Gwynedd wedi bod i Ysgol Hirael yn ddiweddar i siarad efo’r plant am effeithiau newid hinsawdd ar ein cymunedau a sut mae gwaith peirianyddol, fel y prosiect hwn yn Hirael, yn gallu amddiffyn isadeiledd lleol.
Yn ystod y gwaith, gwnaed gwaith i warchod ffigysbren hynod oedd yn tyfu o’r hen wal fôr yn Hirael drwy ei symud – dan oruchwyliaeth arbenigwyr coedyddiaeth – i lecyn i’r de o faes parcio dwyreiniol Lôn y Traeth.
Aelodau o staff YGC a Cwmni Griffiths oedd yn gweithio ar y cynllun.