Marathon Llundain 2024
Pob lwc Cai a Matthew!!
Mae Cai Newell Jones ein Cymhorthydd Technegol YGC yn rhedeg Marathon Llundain Dydd Sul 21 Ebrill 2024.
Os hoffech chi gefnogi Cai, dyma ei dudalen Go Fund Me
“Dwi’n codi arian tuag at MACS, sef elusen genedlaethol bychan sydd yn cefnogi plant ac oedolion sydd wedi’i geni heb lygaid neu gyda llygaid tanddatblygiedig (MACS – Microphthalmia, Anophthalmia & Coloboma Support).
Buaswn yn ddiolchgar iawn o dderbyn unrhyw gyfraniadau i fy helpu gyrraedd fy nharged o £1,500.
Rwyf wedi dewis yr elusen yma oherwydd ei fod yn agos iawn at fy nghalon. Yn Ebrill 2021, cafodd fy mab, Hari, ei eni gyda microphthalmia, ac mae’r elusen yma wedi bod yn gysur imi mewn amser heriol iawn.”
Hefyd mae Matthew Ryan Jones sy’n gweithio fel Technegydd YGC yn rhedeg Marathon Llundain wrth iddo godi arian tuag at elusen epilepsi.
Mae Matthew yn rhedeg er mwyn codi ymwybyddiaeth o’r elusen ‘Epilepsy Action Cymru’.
Os hoffech chi gefnogi Matthew, dyma ei dudalen Go Fund Me
“Rwy’n rhedeg ar ran fy nwy ferch hyfryd, Esmi a Nanw, sydd wedi derbyn diagnosis o Epilepsi.
Teimlaf fel fy mod yn cyfrannu yn ôl i elusen sydd wedi bod o gymorth mawr i ni fel teulu yn ystod amser heriol a phryderus iawn.”