(01286) 679426 ygc@gwynedd.llyw.cymru

Fairbourne: Fframwaith ar gyfer y Dyfodol – ymgynghoriad cymunedol

Heddiw (10 Hydref) fe lansiwyd ymgynghoriad cyhoeddus gan bartneriaeth Fairbourne: Symud Ymlaen ar fframwaith arfaethedig i gyfarch yr heriau amrywiol y bydd y gymuned yn ei hwynebu dros y degawdau nesaf o ganlyniad i lefel y môr yn codi oherwydd newid yn yr hinsawdd.

Dros y ddegawd ddiwethaf, mae Cynlluniau Rheoli Traethlin (SMPs) wedi’u cynhyrchu ar gyfer arfordir Cymru, Lloegr a’r Alban yn ei gyfanrwydd. Yn 2013, mabwysiadwyd SMP2 ar gyfer gorllewin Cymru gan Gyngor Gwynedd a’i gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru yn 2014. Mae dogfen SMP2 yn tynnu sylw arbennig at Fairbourne, ac yn rhagweld y bydd heriau peirianyddol ac ariannol amddiffyn y pentref yn debygol o ddod yn anorchfygol yn gynharach nag ardaloedd eraill.

Ers 2013, mae nifer o gyrff cyhoeddus ac asiantaethau partner eraill wedi bod yn gweithio gyda’r gymuned leol i nodi ffyrdd y gellir cynnal y pentref a rheoli’r risgiau llifogydd a stormydd sy’n ei wynebu hyd at 2054.

Mae’r gwaith yma wedi arwain at ddogfen fframwaith sy’n darparu trosolwg o’r cynnydd a wnaed gan Fairbourne: Symud Ymlaen hyd yn hyn ac sy’n cynnwys pum cynllun penodol y gellir eu datblygu gan sefydliadau partner dros y blynyddoedd i ddod yn amodol ar gyllid ac arweinyddiaeth gan lywodraeth genedlaethol.

 

Mae’r cynlluniau hyn yn canolbwyntio ar: 
  • Cynllun Rheoli Risg Llifogydd
  • Cynllun Rheoli Pobl a’r Amgylchedd Adeiledig
  • Cynllun Rheoli’r Isadeiledd
  • Cynllun Rheoli Busnesau
  • Cynllun Rheoli’r Amgylchedd Naturiol

Cyn bwrw ymlaen â’r fframwaith, anogir trigolion a sefydliadau lleol i gyflwyno sylwadau ac adborth ar y cynlluniau a nodi materion ychwanegol y maent yn teimlo sydd angen sylw penodol.

 

Dywedodd y Cynghorydd Catrin Wager, sy’n arwain ar y mater ar Gabinet Cyngor Gwynedd:

“Mae gennym gyfrifoldeb fel cyrff cyhoeddus i ystyried yn ofalus yr holl ddata sydd ar gael a chyngor arbenigol annibynnol ac i drafod yr opsiynau posib gyda phobl leol. Byddai anwybyddu’r holl dystiolaeth o’r risgiau cynyddol o lifogydd difrifol i’r gymuned yn anghyfrifol.

“Fel partneriaeth, rydym yn gwerthfawrogi bod hyn yn sefyllfa anodd iawn i drigolion lleol ac mae pob ymdrech wedi cael ei wneud i gefnogi’r gymuned drwy’r broses yma a byddwn yn parhau i wneud hynny. Mae hon yn sefyllfa ddigynsail ac mae yna lawer o gwestiynau anodd y bydd angen i ni eu hateb drwy weithio gyda’n gilydd. Dyna pam yr wyf yn annog preswylwyr i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad yma.

“Ochr yn ochr â hyn, rydym yn gwneud popeth yr ydym yn gallu i berswadio Llywodraethau Cymru a’r DU i gydnabod bod angen polisïau newydd a chyllid ychwanegol i gefnogi Fairbourne a chymunedau tebyg a allai wynebu heriau tebyg yn fuan iawn.”

Cyfoeth Naturiol Cymru sy’n gyfrifol am gynnal a chadw’r amddiffynfeydd môr ac afonydd yn Fairbourne, fel y corff statudol perthnasol yng Nghymru. Yn gynharach eleni, cwblhaodd Cyfoeth Naturiol Cymru gynllun i adfer lefel yr amddiffyniad yng Nghornel Friog i’r de o Fairbourne. Roedd y gwaith yma yn cynnwys gosod cryn dipyn o greigiau gwenithfaen chwe thunnell er mwyn amddiffyn y clawdd graean sy’n ffurfio amddiffynfa arfordirol Fairbourne.

Dywedodd Sian Williams, Pennaeth Gweithrediadau, Cyfoeth Naturiol Cymru:

“Rydym wedi ymrwymo i ddarparu safon dda o amddiffyniad rhag llifogydd i bobl yn Fairbourne tan 2054, cyhyd â bod cyllid ar gael a’i bod yn gynaliadwy i wneud hynny.

“Pedair blynedd yn ôl, fe wnaethom gwblhau cynllun gwerth £6.8 miliwn i helpu amddiffyn y pentref.

“Mae amddiffyn Fairbourne yn her gyson – rydym yn gweithio yn erbyn natur i geisio lleihau’r risgiau mewn adeg pan mae’r hinsawdd yn newid a lefelau’r môr yn codi.

“Rydym yn gwerthfawrogi pryder y gymuned am ei dyfodol a byddwn yn parhau i weithio’n agos gyda phobl leol a sefydliadau allweddol i amddiffyn y pentref yn y tymor byr a’r tymor canolig.”

Mae Fairbourne: Symud Ymlaen yn brosiect aml-asiantaeth a sefydlwyd yn 2013 i gyfarch materion cymhleth y mae pentref Fairbourne yn debygol o’i wynebu dros y degawdau nesaf o ganlyniad i effeithiau newid yn yr hinsawdd. Mae’n cynnwys Cyngor Gwynedd, Cyfoeth Naturiol Cymru, Llywodraeth Cymru, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Cyngor Cymuned Arthog, ymgynghoriaeth peirianneg arfordirol ryngwladol Royal Haskoning DHV, Network Rail a Dŵr Cymru.

Mae gan breswylwyr gyfle i ddarparu adborth manwl trwy lenwi holiadur ymgynghori drwy fynd i www.fairbourne.info. Mae copïau papur hefyd ar gael o siop pentref Fairbourne. Bydd yr ymgynghoriad ar agor tan 22 Tachwedd 2019.

Notes:

Cefndir:

Dros y ddegawd ddiwethaf, mae Cynlluniau Rheoli Traethlin (SMPs) wedi’u cynhyrchu ar gyfer arfordir Cymru, Lloegr a’r Alban yn ei gyfanrwydd. Maent yn rhan o ymdrechion y Deyrnas Unedig i baratoi ar gyfer cynnydd sylweddol yn lefelau’r môr a digwyddiadau cynyddol o lifogydd wedi’u hachosi gan dywydd garw yn ystod y cyfnod 100 mlynedd rhwng 2015 a 2115.

Mae’r Cynlluniau Rheoli Traethlin yn disgrifio sut y dylid rheoli darn penodol o’r arfordir dros y cyfnod 100 mlynedd gan fod llifogydd arfordirol ac erydiad a achosir gan newid hinsawdd yn cyflymu.

Mae 1000km o forlin Cymru, rhwng Llandudno yng Nghonwy ac Aberdaugleddau yn Sir Benfro wedi’u cynnwys yng Nghynllun Rheoli Traethlin Gorllewin Cymru. Cyhoeddwyd fersiwn diwygiedig o’r ddogfen yma (SMP2)  yn 2013.

Cafodd dogfen SMP2 – a gynhyrchwyd gan arbenigwyr rhyngwladol ar amddiffynfeydd rhag llifogydd – ei mabwysiadu gan Gyngor Gwynedd a’i chymeradwyo gan Lywodraeth Cymru ym mis Ionawr 2014.

Mae SMP2 yn rhagweld y bydd cynnydd yn lefel y môr a chynnydd mewn amlder stormydd eithafol oherwydd newid hinsawdd yn golygu y daw’n gynyddol anodd i gynnal amddiffynfeydd mewn sawl lleoliad yn ardal Gorllewin Cymru. 

Fairbourne:

Ar hyn o bryd mae lefelau’r ddaear yn Fairbourne ond tua 2.5m uwchben lefel y môr, a lefel cyfartalog penllanw’r gwanwyn a brofir 24 o weithiau bob blwyddyn yw 2.61m. Mae hyn yn golygu bod lefel y môr yn gyffredinol uwch na’r pentref ddwywaith bob mis.

Ar gyfer digwyddiadau tywydd mwy eithafol, hyd yn oed heb gyfrif am weithred tonnau, mae lefel y llanw yn fwy na 1.5m yn uwch na lefel y pentref. O ganlyniad, mae Fairbourne yn ddibynnol iawn ar ystod o amddiffynfeydd llifogydd arfordirol ac afonydd.

Er nad yw Fairbourne wedi dioddef llifogydd llanw sylweddol yn ystod ei hanes byr, mae tri ffactor yn golygu bod hyn yn debygol iawn o newid dros y degawdau nesaf:

  • lefelau’r môr yn codi’n gyflym wedi’i achosi gan newid hinsawdd;
  • tebygolrwydd cynyddol o stormydd garw wedi’u hachosi gan newid hinsawdd;
  • amodau daearegol unigryw o amgylch Fairbourne.

Dros y ganrif nesaf, disgwylir y bydd lefelau’r môr yn codi oddeutu 1m yn ystod gorllanw a chyfnodau o dywydd eithafol. O ganlyniad, bydd yn mynd yn fwyfwy anodd amddiffyn Fairbourne. Yn y tymor hir, nid yn unig y byddai cynnal a chynyddu amddiffynfeydd llifogydd yn gostus, ond byddai hefyd yn arwain at risg gynyddol i fywyd petai’r amddiffynfeydd yn methu.