Agoriad Swyddogol Gwelliannau A55 rhwng Cyffordd 12 a 13 , Abergwyngregyn i Tai Meibion

Gweithwyr Griffiths, YGC a’r Gweinidog
Mae’r cynllun £30 miliwn, sy’n cynnwys £20.7 miliwn gan yr UE, yn mynd i’r afael â’r risg uwch o lifogydd o ganlyniad i newid hinsawdd, ac mae hefyd yn gwella diogelwch ar y rhan hon o’r ffordd, oedd dros 50 mlwydd oed. Roedd y gwaith yn cynnwys cau wyth bwlch yn y llain ganol lle roedd cerbydau amaethyddol yn arfer croesi.
Mae hefyd wedi darparu pedwar cilometr o lwybr teithio llesol newydd a gwell yn cysylltu Abergwyngregyn â Thal-y-bont, Llanfairfechan a Llwybr 5 o’r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol ar ôl ymgynghori â thrigolion Abergwyngregyn. Mae grwpiau beicio wedi croesawu’r datblygiad.
Dywedodd y Cynghorydd Berwyn Parry Jones, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros yr Adran Priffyrdd, Peirianneg ac YGC: “Mae wedi bod yn fraint cael cefnogi Llywodraeth Cymru ar y cynllun cyffroes a phellgyrhaeddol hwn i wella’r A55 rhwng Cyffordd 12 a 13.
“Bu ein Peirianwyr ac Ecolegwyr yn goruchwylio’r gwelliannau diogelwch ar hyd 2.2 cilomedr o’r ffordd gan gynnwys cael gwared ar fannau mynediad uniongyrchol a chau wyth bwlch yn y lleiniau canol oedd yn caniatáu i gerbydau araf groesi’r A55.
“Rydym am weld mwy o bobl yn dewis teithio ar droed neu feic felly mae wedi bod yn bleser cyfrannu at y gwaith o ddarparu mwy na phedwar cilomedr o gyfleusterau teithio llesol newydd a gwelliannau i gyfleusterau presennol.
“Rydym yn hyderus bydd y gwaith yn dod a budd mawr i’r gymuned leol yn enwedig gan fod y risg olifogydd yn yr ardal wedi’i leihau diolch i’r cynllun drwy adeiladu system ddraenio gwell a chwlfert mwy i Afon Wig.”
