(01286) 679426 ygc@gwynedd.llyw.cymru

Ymweliad A55 Abergwyngregyn i Tai’r Meibion

Yn ddiweddar bu cyfle i Aelod Cabinet Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol/ YGC Cyngor Gwynedd Cynghorydd Berwyn Parry Jones ymweld â safle cynllun A55 Abergwyngregyn i Tai’r Meibion.  Mae Peirianwyr ac Ecolegwyr YGC yn goruchwylio’r gwelliannau diogelwch ar hyd pellter o 2.2km o’r ffordd ddeuol, rhwng Cyffordd 12 a 13 sydd bellach bron a’i gwblhau.

Aelod Cabinet Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol/ YGC Cyngor Gwynedd Cynghorydd Berwyn Parry Jones (dde) yn ymweld â safle cynllun A55 Abergwyngregyn i Tai’r Meibion gyda Prif Beiriannydd YGC – John Rhys Jones (chwith).

Mae’r gwaith yn cynnwys cael gwared ar fannau mynediad uniongyrchol ar yr A55 yn ogystal â chael gwared ar wyth bwlch yn y lleiniau canol oedd yn caniatáu i gerbydau amaethyddol araf groesi’r A55.
Mae mwy na pedair cilomedr o gyfleusterau teithio llesol gwell wedi ei ddatblygu er mwyn annog beicio a cherdded.  Mae risg o  lifogydd ar yr A55 hefyd wedi’i leihau, drwy adeiladu system ddraenio gwell, a cwlfert mwy i Afon Wig, a fydd yn hyrwyddo gwytnwch y ffordd.