Cynhadledd Staff YGC – Cynllun Busnes a Llesiant Staff
Daeth 80 o staff YGC at ein gilydd ddydd Gwener y 4ydd o Ebrill i gynnal Cynhadledd Staff yn Siambr Arfon swyddfa Penrallt.
Dywedodd Steffan Jones Pennaeth yr Adran Priffyrdd, Peirianneg ac YGC “roedd y Gynhadledd yn gyfle arbennig i ni gyfarch salw o’n hamcanion fel tîm rheoli i ddiolch i’n staff ac edrych ymlaen at gyfnod cyffroes yn hanes YGC dros y 5 blynedd nesaf.
Diolch i’r tîm a chydnabod llwyddiannau
Cefais gyfle i ddiolch i’r holl staff am eu gwaith caled dros y flwyddyn ddiwethaf. Rwy’n diolch i Geraint Owen Cyfarwyddwr Corfforaethol Cyngor Gwynedd am roi trosolwg o’r rôl bwysig y mae YGC yn ei gynnal i’n Cleientiaid ac fel rhan o Gyngor Gwynedd. Bu i ni wedyn ddathlu llwyddiannau academaidd a phroffesiynol ein staff a llwyddiannau ein timau sydd wedi ennill gwobrau a chydnabyddiaeth yng Nghymru a Chenedlaethol am waith yn ymwneud a phrosiectau diddorol.
Cynllun Busnes
Yn ail ran y gynhadledd bu i Emlyn Jones Pennaeth Cynorthwyol YGC a’r Rheolwyr Gwasanaethau tywys y staff drwy ein cynllun busnes newydd a rhoi cyflwyniad i’r Cynllun, y 3 prif Themâu, Nodau ac Amcanion cysylltiedig. Bu i ni gynnal 3 fforwm i roi cyfle i bawb drafod 1 thema mewn manylder a thrafodaeth grŵp.
Llun o Emlyn Jones Pennaeth Cynorthwyol YGC (chwith) Gareth Wright Rheolwr Gwasanaeth Adeiladu ac Isadeiledd, June Jones cynghorydd, Steffan Jones Pennaeth Priffyrdd, Peirianneg ac YGC a Geraint Owen Cyfarwyddwr Corfforaethol
Llesiant Staff
Un o prif amcanion trefnu ein Cynhadledd oedd codi ymwybyddiaeth am llesiant ein staff. Bu i ni dderbyn cyflwyniad lles oedd yn cynnwys pwysigrwydd ymwybyddiaeth am Iechyd Meddwl a llesiant. Rydym yn diolch i Enlli Thomas Ymgynghorydd Iechyd Galwedigaethol am ein tywys trwy’r cyflwyniad, ac fel yn y gorffennol, rydym yn trefnu gwiriadau iechyd gwirfoddol am ddim i’n holl staff yn fuan iawn.
Edrych i’r dyfodol – Gwasanaethau newydd YGC
Yna, i gloi’r Gynhadledd, roedd cyfle i ni ddysgu am dimau a gwasanaethau newydd YGC fydd yn datblygu yn bellach dros y 5 blynedd nesaf. Mae ein tîm Syrfeo wedi buddsoddi mewn offer newydd arloesol sydd yn cynnig arolygon manwl i’n Cleientiaid.
Mae ein tîm Daeardechnegol hefyd wedi buddsoddi mewn peiriant creiddio palmentydd fydd yn medru cynnig gwasanaeth archwilio palmentydd i’n cleientiaid.
Roedd y Gynhadledd yn gyfle i staff YGC sydd yn gweithio ar safleoedd, swyddfeydd ardal neu o bell ddod at ei gilydd fel un tîm.
Roedd yn faint hefyd bod ein Aelod Cabinet Cynghorydd June Jones wedi bod yn bresennol a cael cyfle i gyfarfod a sgwrsio gyda nifer o’r staff.
Diolch yn fawr i bawb oedd yn ymwneud a’r trefniadau. Roedd galonogol iawn clywed syniadau ac adborth staff yn ystod y diwrnod”.
Llun o grwpiau cynhadledd
Am ragor o wybodaeth am waith YGC dilynwch y gwasanaeth ar Facebook neu ewch draw i wefan y gwasanaeth https://ygc.cymru/