2022 Enillydd – Arloesedd – Gwelliannau i wal gynnal Llanycil Llyn Tegid Y Bala
‘Rydym yn falch iawn o gyhoeddi fod ein enwebiad ar y cyd ar gyfer prosiect gwelliannau i wal gynnal Llanycil Llyn Tegid Y Bala wedi ennill Gwobr ICE Wales Cymru 2022 – Arloesedd. Llongyfarchiadau mawr i’r holl dîm.

Gan fod arglawdd serth priffordd sy’n gyfochrog â Llyn Tegid yng Ngogledd Cymru yn parhau i ddioddef problemau sefydlogrwydd, a hynny ar ôl gwaith atgyweirio dro ar ôl tro, comisiynwyd, Alun Griffiths (Contractwyr) a Diwydag gan Lywodraeth Cymru i gynllunio datrysiad.
Yr ateb arloesol oedd gosod wal gynnal o goncrid wedi’i hatgyfnerthu ‘King post type’, wedi’i chynnal gan 36 angor yn y ddaear, 12 ohonynt yn angorau clyfar – y defnydd cyntaf ohonynt yn y DU.
