(01286) 679426 ygc@gwynedd.llyw.cymru

Rheoli ymylon ffordd ACGChC ar gyfer peillwyr

Astudiaeth achos o degeirianau ar yr A55

Client:Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolberth Cymru
Cost y Cynllun: £5,000
Dyddiad cwbwlhau: Gorffenaf 2013
Mae Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru (ACGChC) wedi ymroi i reoli ei dir er budd bioamrywiaeth ac mae ganddo doreth o Gynlluniau Gweithredu Bioamrywiaeth Cefnffyrdd sy’n cynnwys amrywiaeth o wahanol gynefinoedd a rhywogaethau. Mae un o’r cynlluniau hyn yn cynnwys targedau i degeirianau, sy’n cynnwys rheoli safleoedd â thegeirianau, neu sydd â photensial uchel i gael tegeirianau, yn briodol. Er y tynnir sylw’n benodol at y tegeirian fan hyn, bydd rheoli’r safleoedd hyn o fudd i nifer o flodau gwyllt eraill..
Yn 2013, comisiynodd ACGChC dîm amgylcheddol YGC i lunio cynlluniau rheoli ar gyfer y 10 safle ymyl ffordd pwysicaf ar hyd y gerbydlon a slipffyrdd sy’n rhan o ystâd feddal yr A55.
I gwblhau’r dasg hon, yn y lle cyntaf roedd yn rhaid craffu data ecolegol oedd yn bodoli eisoes am ystâd feddal yr A55 gan ddefnyddio meddalwedd GIS ac adnabuwyd y safleoedd posib lle y gellid canolbwyntio’r ymdrechion i gynnal arolygon. Yn dilyn hyn roedd angen cwblhau asesiadau risg perthnasol, briffiau diogelwch a chynllunio gwaith maes i gael gweithio ar gerbydlon cyflymder uchel yr A55. Cyflogwyd ymgynghorwr allanol, gyda sgiliau arbenigol mewn arolygon botaneg i chwarae rhan allweddol wrth gynnal arolwg manwl.
Roedd y 25 safle dethol yn amrywio o fod yn fychan iawn i fod yn fawr iawn, o fod yn laswellt mân-ddeiliog i fod yn brysgwydd dwys a choetir ac o fod yn gyforiog o flodau i fod yn brin iawn o rywogaethau. Roedd rhai safleoedd hyd yn oed yn llwyddo i fod yn gyfuniad o sawl un o’r nodweddion hynny, i gyd yn yr un lle, gan arwain at amrywiaeth sylweddol o rhywogaethau.
Yr hyn a oedd wrth wraidd yr arolwg oedd y tegeirian, a chofnodwyd pum rhywogaeth; y tegeirian gwenynog mewn pum safle; tegeirian coch yr haf mewn pum safle, y tegeirian dwysflodeuog mewn 18 safle, tegeirian cors y gogledd mewn dau safle a’r caineirian mewn tri safle.
Yn ogystal â’r tegeirianau, cofnodwyd ystod eang o blanhigion, gan gynnwys nifer o rywogaethau calchgar hyfryd megis y ganrhi felen Blackstonia perfoliata, llin y tylwyth teg Linum catharticum a’r codowydd Inula conyzae. Roedd y planhigion yn tyfu mewn darn da o
dywarchen calchaidd, cynefin sydd â chynhyrchiant eithriadol o isel o ran biomas, ond un sy’n cefnogi amrywiaeth trawiadol o blanhigion fasgwlaidd.
Ymysg y blodau gwyllt toreithiog, anodd fyddai peidio â sylwi ar y gwybed, y cacwn a’r gloÿnnod byw a oedd i’w gweld mewn niferoedd ac amrywiaeth anarferol o uchel wedi’u denu gan gyflenwad helaeth o baill a neithdar, ar raddfa nas gwelir mo’i thebyg yng nghefn gwlad y dyddiau hyn. Felly mae ein cynlluniau i reoli’r tegeirian yn cyd-fynd â’r Cynllun Gweithredu Peillwyr ac yn gymorth uniongyrchol i leihau a gwrthdroi’r dirywiad ym mhoblogaethau peillwyr gwyllt a pheillwyr a reolir.
Bydd y gweirgloddiau gorau ar y briffordd yn cael eu rheoli wrth i ACGChC gadw at lôn dorri syml i alluogi’r blodau i flodeuo a hadu a symud y deunydd a gaiff ei dorri oddi yna er mwyn atal y biomas rhag cronni. Mae’r drefn hon yn debyg i’r un a ddefnyddir i reoli gweirgloddiau traddodiadol. Mae rhai o’r cynlluniau rheoli a luniwyd, a gafodd eu rhannu â thimau cynnal a chadw’r A55, hefyd yn cynnwys argymhellion i glirio a rheoli prysgwydd sy’n meddiannu ymylon rhai o’r safleoedd hyn.
Profiad poenus yn aml yw bod yn dyst i ddirywiad ecolegol sydd yn nodweddiadol o lawer o hanes diweddar ein cefn gwlad, ond y tro nesaf y byddwch yn teithio ar yr A55, gallwn gynnig rhywfaint o gysur i chi fod yna wasanaeth sy’n gweithio i achub ac adfer bioamrywiaeth ar ymyl y ffordd.