Cafodd y Ffordd Sirol Dosbarth 3, sy’n cysylltu cymuned y Rhiw gyda Thref Pwllheli, ei difetha’n dilyn tirlithriad ym mis Rhagfyr 2000. Tan i’r ffordd newydd gael ei hadeiladu, bu’r hen ffordd ynghau am bron i 6 blynedd ac er bod ffyrdd eraill ar gael, roedd y rhain yn golygu siwrneiau hwy yn ôl a
blaen i’r pentref a rhannau eraill o Lŷn. Roedd y rhan fwyaf o’r ffyrdd eraill yn llai na 4m o led ac nid oeddent yn cael eu hystyried fel opsiynau addas heb wneud gwelliannau sylweddol iddynt.
Gan fod y cynllun wedi’i leoli mewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol, ac yn ogystal â bod yn rhan o ystâd Plas yn Rhiw, roedd materion amgylcheddol yn fl aenllaw iawn trwy gydol y camau dichonoldeb, dylunio ac adeiladu.
Ymgynghorwyd â phob corff amgylcheddol statudol yn ogystal â’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol trwy gydol y camau dichonoldeb a dylunio.
Roedd integreiddio’r cynllun i’r dirwedd yn un o’r amcanion dylunio pwysicaf o’r cychwyn. I gyflawni hyn, aethpwyd ati i adeiladu sawl math o wal sych ar hyd llwybr y ffordd, gyda phob un wedi’i chodi o garreg leol y Rhiw a oedd ar y safle ac a gafodd eu trin i’r meintiau priodol. Gan fod yr holl gerrig a oedd eu hangen wedi dod o’r safle a bod cerrig mawr wedi eu torri i’r maint priodol, nid oedd angen cludo cerrig i’r safle, gan leihau’r angen i gludo a gwneud cyfraniad sylweddol at nod y cynllun i fod yn gynaliadwy.
Mae Cyngor Gwynedd, gyda chymorth ymgynghorwyr allanol ac Alun Griffiths Contractors, wedi creu ffordd sydd wedi ei hintegreiddio’n llwyddiannus i’r dirwedd gyfagos ac sy’n enghraifft nodedig ar gyfer prosiectau mewn ardaloedd gwledig eraill yn y dyfodol.
Mae cysylltiadau wedi parhau yn ystod y gwaith adeiladu gydag ymweliadau â’r safle’n cael eu trefnu a chyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, un o brif randdeiliaid y cynllun, yn bresennol mewn cyfarfodydd cynnydd misol.
Cynhaliwyd amrywiaeth o arolygon amgylcheddol o foch daear, pathewod a fflora a ffawna eraill fel rhan o’r datganiad amgylcheddol a chawsant eu diweddaru’n rheolaidd. Defnyddiwyd ceffylau i symud rhai o’r coed i sicrhau cyn lleied o ddifrod â phosibl i’r coetir. Hefyd symudwyd planhigion o’r coetir o fewn coridor y gwaith i leoliadau eraill o fewn y coetir ac o amgylch tiroedd Plas yn Rhiw.
Un o nodau’r dyluniad oedd cael gwared ar gyn lleied â phosibl o goed y coetir. Mae canlyniad hyn i’w weld mewn sawl man ar hyd y llwybr lle mae coed aeddfed i’w gweld yn agos at fin y ffordd newydd, sy’n integreiddio’r ffordd ymhellach i’r dirwedd.
Cludwyd unrhyw goed y bu’n rhaid eu codi gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol i gael eu prosesu neu cawsant eu gadael yn y coetir fel cynefin pren marw i bob math o fywyd gwyllt.