Pont Ddol – Cynllun Atal Llifogydd Llanberis
Client: | Cyngor Gwynedd |
Contractwr: | Alun Griffiths (Contractors) Ltd |
Cost y Cynllun: | £1.3 miliwn |
Dyddiad cwbwlhau: | Tachwedd 2019 |



Mae Llanberis yn bentref sydd o fewn Parc Cenedlaethol Eryri, wrth droed yr Wyddfa, sy’n croesawu bron i 600,000 o ymwelwyr bob blwyddyn, gyda bron i draean yn defnyddio llwybr Llanberis. Mae hefyd yn cynnal nifer o ddigwyddiadau chwaraeon drwy’r flwyddyn, megis Marathon Eryri. Mae economi’r pentref yn deillio’n bennaf o dwristiaeth a chynhyrchu, ac mae gan Siemens a DMM weithfeydd gerllaw.
Mae Afon Goch yn llifo drwy ganol y pentref ac yn arllwyso i mewn i Lyn Padarn. O ganlyniad i serthrwydd y dalgylch, mae’r afon yn ymateb yn gyflym i law, a gall yr afon godi’n gyflym. Mae’r pentref wedi gorlifo yn y gorffennol, ac roedd y llifogydd mwyaf diweddar yn 2012. Achoswyd hyn gan law arbennig o drwm a rhwystr ar bont y stryd fawr, a’r afon yn gorlifo mewn nifer o fannau i fyny’r afon.
Mae’r bont bresennol yn hen bont gwaith maen, gyda dau slab estyniad concrid wedi’i atgyfnerthu er mwyn darparu troedffyrdd ar gyfer y stryd fawr. Roedd gan agoriad y bont ran drawstoriadol o 1.8m2, ac roedd yn cael ei rwystro’n aml gan falurion. Dyluniwyd pont newydd yn ei lle oedd â mwy o led, dec teneuach, ac roedd y rhan fwa wedi’i thynnu. Arweiniodd hyn at agoriad mwy o bron i 6m2, gan arwain at gludiad gwell mewn llifogydd, a lefelau dŵr is i fyny’r afon.
Yn dilyn dyluniad amlinellol, crëwyd cyfres o fodelau hydrolig a oedd yn efelychu pont newydd a glannau uwch i’r afon ar gyfer digwyddiad storm 1 mewn 100-mlynedd. Galluogodd hyn ar gyfer dyluniad mwy manwl, gan ein bod wedi dilysu dimensiynau agoriad y bont newydd, a’r gofynion uchder ar gyfer muriau’r glannau newydd.
Yn ogystal â’r bont newydd, adeiladwyd cyfres o waliau ar hyd y glannau, sydd yn gyfanswm o 270m mewn hyd. Nid oedd y waliau hyn yn barhaus, ac fe’u hadeiladwyd mewn mannau lle nad oedd glan yr afon neu’r strwythurau presennol yn addas. Mae waliau’r amddiffynfa llifogydd yn amrywio mewn uchder o 1.0m o uchder i 3.5m o uchder. Fe’u dyluniwyd yn unol â’r lleoliad a byddant yn cefnogi llwythau hydrostatig, pridd a’r llwythau traffig gofynnol. Mae’r bont a’r waliau yn goncrid wedi’i atgyfnerthu, ond mae’r wynebau carreg yn lleihau effaith esthetig y cynllun, ac mae parapetau’r hen bont yn cael eu defnyddio ar gyfer y bont newydd, ac mae hyn eto wedi lleihau effaith y cynllun.
Yn ystod y cyfnod o amnewid y bont, defnyddiwyd pentyrrau o ddalennau (sheet piles) i ynysu glan yr afon rhag y cwrs dŵr. O ganlyniad, roedd modd castio ategwaith y bont a’r waliau cynnal gerllaw yn eu lle. Cafodd dec y bont ei hun ei gastio oddi ar y safle, ac roedd yn cynnwys dwythellau ar gyfer gwasanaethau, a chlwydi ystlumod i gymryd lle y cynefinoedd a gollwyd.
Cafodd glan naturiol yr afon ei chadw i’r graddau lle roedd hynny’n ymarferol bosib, ac fe osodwyd gwaliau i ddyfrgwn, clwydi ystlumod a blychau trochwyr ar hyd y cynllun i gymryd lle’r nodweddion hynny a gollwyd. Hefyd, cafodd coed eu plannu, megis coed cyll; mae eu gwreiddiau’n atgyfnerthu’r pridd rhag erydiad, ac maent yn gynefin pwysig i bryfetach.
