(01286) 679426 ygc@gwynedd.llyw.cymru

Ysgol Glan y Môr

Client: Cyngor Gwynedd
Contractwr:

Cyfnod 1: Dawnus / Cyfnod 2: Wynne Construction / Cyfnod 3: Watkin Jones & Sons

Côst y gwaith:

Cyfnod 1: £575k / Cyfnod 2: £2.5m / Cyfnod 3: £1.5m

Cwblhad y gwaith:

 Cyfnod 1: 2008 / Cyfnod 2: 2009 / Cyfnod 3: 2010
Cafodd Ysgol Gyfun Glan y Môr ei amlygu fel cynllun i’w ail-ddatblygu fel rhan o’r Grant Gwella Adeiladau Ysgolion, Llywodraeth Cynulliad Cymru. Bu Ysgol Gyfun Glan-Y-Môr ar y safle presennol ers 1968. Caiff ei mynychu gan oddeutu 523 o ddisgyblion o dref Pwllheli a’r cylch.
Adeiladu
Dyluniad nodweddiadol o bensaernïaeth gyhoeddus y Chwedegau oedd i’r adeilad blaenorol. Dros amser datblygodd ar ffurf hirsgwar gydag adeiniau’n arwain allan o floc canolog ble mae’r neuadd. To fflat a ffenestri panel mawr oedd prif elfennau gweledol yr adeilad. Gan fwyaf, defnyddiwyd dull ‘adeilad system’ i’w adeiladu a ystyriwyd yn ddull cost-effeithiol ar gyfer adeiladau cyhoeddus yn y Chwedegau. Bu estyniadau pellach dros y blynyddoedd gyda’u nodweddion amrywiol eu hunain. Yn anffodus roedd cyflwr yr adeilad wedi dirywio’n fawr a phenderfynwyd ymgymryd â gwaith ail-fodelu cynhwysfawr o fewn Gwedd 1, 2 a 3. Mae’r prosiect £4.5 miliwn wedi cynnwys gwaith adnewyddu sylweddol i amryw o adeiladau’r ysgol.
O fewn Gwedd 1 canolbwyntiwyd ar adeilad to pig deu lawr sy’n dyddio i’r 1980au. Defnyddir yr adeilad ar gyfer labordai, dosbarthiadau a llyfrgell. Cafodd y cyfleusterau eu huwchraddio ynghyd ag ychwanegiad lifft newydd. Yn ychwanegol, cafodd fenestri a drysau allanol newydd eu gosod, ynghyd a bwyler. Defnyddiwyd contract dull traddodiadol i’w adnewyddu ar urf contractau NEC Opsiwn B.