Gwelliant Y Cob Porthmadog
Cychwynnodd y gwaith ar Gynllun Gwelliannau’r Cob (sydd yn 1.7km o hyd) yn Chwefror 2001 yn dilyn tendr llwyddiannus gan Mulcair Cyf ar gyfer cynllun £ 1.1. Miliwn wedi ei seilio ar Uchafswm Pris Gwarantedig. Cwblhawyd y gwaith drwy gynllun Cytundeb Partneriaid Prosiect rhwng Cyngor Gwynedd a Mulcair Cyf.
Ymgynghoriaeth Gwynedd, oedd yn gyfrifol am ddylunio’r gwaith ar ran y Cynulliad Cymreig ac Adran Cynllunio a Datblygu Economaidd y Cyngor. Bu’r tîm hefyd yn gweithio’n agos gyda Chyngor Cefn Gwlad Cymru, CADW, Asiantaeth yr Amgylchedd Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru ac Ymddiriedolaeth Rebecca.
Oherwydd pryderon am ddiogelwch, adeiladwyd wal gynnal ychwanegol ar ben y morglawdd newydd, a hefyd wal goncrid gyda chanllaw arni i fod yn fur gwarchod rhwng y beicwyr a’r modurwyr. Wynebwyd y wal hon â cherrig.
Roedd un fantais fawr i’r cynllun hwn, sef y cyfle i ledu’r A487 bresennol ar yr un pryd. Roedd y ffordd mor gul â 5.5 medr yn ei man culaf. Ers blynyddoedd lawer roedd y Cob wedi bod yn dagfa i drafnidiaeth oherwydd problemau pan fyddai dwy lori neu fws angen pasio eu gilydd. Wrth fabwysiadu’r dewis hwn llwyddwyd i ledu o leiaf 1.2 medr ar briffordd yr A487, a datrys y broblem ddyrys hon.
Ychwanegwyd rhwystrau eraill i’r prosiect oherwydd bod y gwaith o fewn Ardal o Harddwch Naturiol Arbennig, bod y strwythur gwreiddiol yn Adeilad Rhestredig, bod y gwaith o fewn tir sydd yn gorlifo, a bod angen cynllunio ar gyfer dŵr y môr yn llifo drwy’r Cob ar benllanw.
ECOLEG A CHADWRAETH NATUR
Cynhaliwyd astudiaeth amgylcheddol yn 1999 cyn llunio’r cynlluniau manwl a dangosodd canfyddiadau cyffredinol yr astudiaeth na fyddai’r cynllun arfaethedig yn amharu fawr ddim ar yr ecoleg leol nac ar y tirlun. Fodd bynnag, un gofyniad penodol oedd gosod gorchudd rhwyllog dros y wal wreiddiol i rwystro ystlumod rhag clwydo arni ac adar rhag nythu ynddi. Adeiladwyd clwyd fannau pwrpasol ar gyfer yr ystlumod o fewn y wal newydd.
Mae tirlunio yn rhan o’r cynllun a golyga hyn ffensio a physt derw ar ochr ddwyreiniol y cynllun lle roedd angen ffens i ddiogelu anifeiliaid. Ar yr och orllewinol defnyddiwyd carreg a rhisgl coed pydradwy wedi ei drin er mwyn rhoi gorffeniad naturiol i’r morglawdd newydd. Bydd rhagor o dirlunio a phlannu coed ar bob pen i’r cynllun.
CEFNDIR
Mae’r Cob ym Mhorthmadog yn amddiffynfa rhag y môr a hefyd yn gyfrwng cario trafnidiaeth ar draws aber yr Afon Glaslyn. Adeiladwyd y Cob yn wreiddiol rhwng 1808 ac 1811, gan William Maddocks.
Mae’r Cob tua 1.2 km o hyd ac adeiladwyd ef yn forglawdd cerrig ar draws yr aber, gan droi cwrs yr afon tua’r gogledd fel ei bod yn llifo trwy lifddorau i mewn i harbwr Porthmadog. Cymerodd y gwaith o adeiladu’r morglawdd gwreiddiol dair blynedd a hanner i’w gwblhau a’r anhawster mwyaf oedd cau’r darn diweddaf un, lle’r oedd yr afon a’r llanw yn cystadlu am gael llifo trwodd. Cafwyd ateb i’r broblem drwy suddo hen longau wedi eu llenwi a cherrig i mewn i’r gwagle.
Ymhellach ymlaen, datblygwyd y Cob trwy adeiladu waliau cynnal oedd yn ei gwneud yn bosibl adeiladu rheilffordd Ffestiniog ar ben uchaf y wal a hefyd y briffordd A487 ar lefel is ar ochr y tir. Yn y 1970au gosododd rhagflaenwyr Asiantaeth yr Amgylchedd ddeunydd gwastraff ar hyd ochr fewnol y Cob fel mesur brys yn dilyn pryderon am gryfder y waliau cynnal.