(01286) 679426 ygc@gwynedd.llyw.cymru

Cynllun Teithio Llesol – A487 Dolgau

Active Travel Project - Waterloo Port, Caernarfon
Cyclists on cycle track Active Travel Project - Waterloo Port, Caernarfon
Cyclists on cycle track Active Travel Project - Waterloo Port, Caernarfon
Disgrifiad o’r Prosiect:

Mae’r gwaith o adeiladu llwybr defnydd a rennir newydd rhwng pentrefi Bow Street i’r de a Dole i’r gogledd wedi’i gwblhau ym mis Hydref 2023. Cafwyd ymgyrch ers blynyddoedd maith gan y trigolion yn gofyn am lwybr mwy diogel ar hyd yr A487 brysur i gysylltu’r pentrefi.

Penodwyd Alun Griffiths Contractors Ltd yn gynnar yn 2023 i ymgymryd â’r gwaith Adeiladu. Roedd y gwaith yn cynnwys adeiladu llwybr defnydd a rennir 3.0m o led ar gyfer cerddwyr a beicwyr, creu safle newydd i fws dynnu i mewn, gwelliannau draenio a gwelliannau amgylcheddol ar hyd ymyl ddwyreiniol y ffordd gerbydau bresennol, gan ddilyn yr aliniad llorweddol a fertigol presennol.

Ymgymerwyd â’r canlynol gan YGC:

  • Dyluniad Manwl ar gyfer y rhan – yn cynnwys Clirio Safle, Adeiladwaith Hwylustod, Draenio, Ffensio a gosod Giatiau newydd, Wynebu, Arwyddion, a Lluniadau Marciau Ffordd.
  • Asesiadau Amgylcheddol gan gynnwys adroddiadau ac arolygon safle.
  • Archwiliad Diogelwch Ffyrdd Cam 1/2 (Dyluniad Manwl) ac RSA3 (ar ôl cwblhau’r gwaith adeiladu).
  • Chwiliadau cyfleustodau a gwaith diogelu/dargyfeirio. Ymwneud cynnar â Dŵr Cymru i wneud gwaith dargyfeirio yn 2022 cyn adeiladu’r Llwybr Defnydd a Rennir newydd; yn ogystal â thrafodaethau cynnar gyda BT Openreach a Scottish Power i benderfynu ar eu Cwmpas gwaith a gafodd ei gynnwys yn ystod y prif waith.
  • Amcangyfrif Cost ar gyfer y Gwaith
  • Dogfennaeth Contract a Chaffael y Contractwr trwy Fframwaith Contractwyr Asiantaeth Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru (ACGChC).
  • Rheoli Prosiect NEC4 yn ystod Gwaith Adeiladu, gyda Goruchwyliaeth gan Gyngor Ceredigion.