Gwaith wedi dechrau ar bont teithio llesol y Drenewydd dros yr Afon Hafren
Disgrifiad o’r Prosiect:
Mae gwaith adeiladu hirymarhous wedi dechrau ar bont i gerddwyr a seiclwyr dros Afon Hafren yn y Drenewydd mis Awst 2023.
Bydd y bont, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yn cysylltu llwybr ymyl yr afon â Ffordd y Trallwng yn y Drenewydd gan greu cyswllt teithio llesol diogel rhwng cymunedau, busnesau ac amwynderau bob ochr i’r afon.
Bydd y cwmni adeiladu, JN Bentley yn gyfrifol am adeiladu’r bont newydd ar ran Cyngor Sir Powys, a dylai cymunedau lleol bob ochr i’r afon ddisgwyl eu gweld ar y safle o 19 Mehefin 2023 tan ddiwedd y flwyddyn.
“Bydd y bont hon yn gwneud gymaint o wahaniaeth i’r rheini sy’n byw yn yr ardal leol ac yn bendant yn rhoi’r cyfle iddynt wneud taith fer i’r gwaith, ysgol neu’r siopau lleol ar feic neu ar droed, yn hytrach na mewn car.” Esbonia’r Cynghorydd Jackie Charlton, Aelod Cabinet ar gyfer Powys Wyrddach.
“Mae llwybrau teithiau llesol yn gwella ledled y sir ac yn cynyddu flwyddyn ar ôl blwyddyn ac rydym ni’n gyffrous bod y bont newydd hon, yn un o’n prosiectau teithio llesol mwyaf uchelgeisiol ac yn dwyn ffrwyth o’r diwedd ar ôl blynyddoedd o gynllunio.
Dichonoldeb a’r camau dylunio amlinellol
- Cysyniad y prosiect
- Dichonoldeb datblygu
- Y dewisiadau
- Adolygiad Rhwyddineb Adeiladu
- Y cysyniad a’r camau dylunio amlinellol
- Ymgynghoriadau gyda rhanddeiliaid a’r cyhoedd
- Caffael tir
- Rheoli Gwaith Archwilio’r Ddaear, samplo pridd a monitro dŵr daear
- Arolygon Amgylcheddol
- Asesiad Canlyniadau Llifogydd
- Rheoli prosesau cynllunio
- Ymgysylltu â rhanddeiliaid
- Dogfennau Contract
- Proses Dendro
I wybod mwy am y prosiect yma, ewch ar wefan Cyngor Sir Powys