(01286) 679426 ygc@gwynedd.llyw.cymru

Plas Heli

Academi Hwylio a Chanolfan Ddigwyddiadau Genedlaethol Cymru

Client:Cyngor Gwynedd
Contractwr:

Adeiladwaith – Wynne Construction

Gwaith Morol: Jones Bros Civil Engineering 

Côst y gwaith:£9.5m
Cwblhad y gwaith:2015
Rheoli Contracdau
Tref farchnad yw Pwllheli sydd wedi’i lleoli ar arfordir deheuol Pen Llŷn yng Ngogledd Orllewin Cymru. Ers datblygiad yr Hafan yn 1991, mae Pwllheli wedi esblygu’n un o’r lleoliadau hwylio gorau yng ngorllewin Prydain. Mae Pwllheli’n borth i’r dyfroedd hwylio sy’n cynnwys Bae Ceredigon, Ynys Môn ac arfordir dwyrain Iwerddon. Ystyrir ei bod ymysg goreuon y byd ac mai dyma un o’r tri lleoliad dethol yn y DU sy’n addas ar gyfer cynnal digwyddiadau mawr i dingis. Yn y blynyddoedd diwethaf, mae nifer sylweddol o gystadlaethau hwylio cenedlaethol a rhyngwladol llwyddiannus wedi’u cynnal ym Mhwllheli, gan godi proffil rhyngwladol yr ardal a thynnu sylw at ei phwysigrwydd presennol a’i photensial o fod yn brif ganolfan digwyddiadau hwylio yn y dyfodol.
A hithau’n Ganolfan Ragoriaeth ar gyfer hyfforddiant hwylio, bydd yn darparu cyfleusterau o’r radd flaenaf i longwyr ar bob lefel o ran cymhwysedd a gallu. Yn ogystal â darparu ar gyfer cynnal digwyddiadau dingi o safon genedlaethol a rhyngwladol, bydd y cyfleusterau a ddarperir hefyd yn addas ar gyfer digwyddiadau celfadau, regatas cychod hwylio, a gweithgareddau chwaraeon dŵr eraill. Ar sail llwyddiant Pwllheli, canfuwyd cyfleoedd cychwynnol yng nghyswllt y potensial ar gyfer datblygu cryfderau’r ardal a manteisio arnynt, er mwyn cyflawni anghenion economaidd a chymdeithasol ehangach:
  • Adeiladu ar sail buddsoddiadau a llwyddiannau morol ym Mhwllheli a chadarnhau’r dref yn ganolfan hwylio ryngwladol sydd â chyfleusterau addas i ddenu a chynnal cystadlaethau o’r safon uchaf.
  • Uchafu’r budd economaidd a geir o ddenu cystadlaethau, digwyddiadau a chychod ymweld i’r ardal.
  • Hyrwyddo digwyddiadau hwylio ar bob lefel gymhwysedd a gallu, a hynny drwy gyfrwng cyrsiau, hyfforddiant a digwyddiadau a fydd yn cynnwys pawb, yn arbennig y rhai sydd ag anawsterau.
  • Hyrwyddo ac annog y defnydd o’r Gymraeg ym mhob agwedd ar ei gweithgareddau.
  • Darparu adnodd i’w ddefnyddio gan y gymuned, er enghraifft drwy ddarparu cyfleusterau a fyddai’n galluogi ysgolion i gynnwys gweithgareddau hwylio a dŵr yn rhan o’u gweithgareddau awyr agored.
Mae’r datblygiad yn cynnwys tair prif elfen:
  • Gwaith o ailalinio ffordd fynediad a gwaith dargyfeirio gwasanaethau cysylltiedig.
  • Gwaith morol, gan gynnwys carthu, pontŵn ac adeiladu wal cei.
  • Adeilad Academi newydd.
  • Ariannwyd Academi Hwylio Genedlaethol Cymru a’r Ganolfan Ddigwyddiadau gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru, ynghyd â chyllid cyfatebol gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Gwynedd.
Roedd rôl YGC yn cynnwys:
  • Gwaith Rheoli Prosiect, Rhaglen, Costau a Risg ar gyfer y datblygiad i gyd, gan gynnwys caffael a rheoli’r holl Gontractau Gwasanaethau a Gwaith (rhai Cyfnodolyn Swyddogol yr Undeb Ewropeaidd (OJEU) a’r rhai nad ydynt yn ymwneud ag ef).
  • Contract NEC3 ECC ar gyfer rheoli prosiect i adeiladu Academi.
  • Contract NEC3 ECC ar gyfer rheoli prosiect a goruchwylio gwaith morol.
  • Contractau NEC3 ECSC; swydd
  • Cyflogwr ar gyfer ffordd a seilwaith newydd a gwaith morol uwch.
  • Ymgysylltu â rhanddeiliaid.
  • Bodloni gofynion archwilio Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru.