Maes parcio Dinas Dinlle, Caernarfon
Disgrifiad o’r Prosiect:
Cleient: Uned Economi a Chymuned, Cyngor Gwynedd |
Contractwr: G H James Cyf |
Gwerth y Prosiect: £460k |
Cyfnod Cwblhau: 2023-24 |
Roedd y prosiect hwn yn cynnwys gwella maes parcio 3 rhan presennol yn Ninas Dinlle ger Caernarfon. Tynnwyd y llystyfiant tir presennol a gosodwyd wyneb ‘grasscrete’ newydd gyda marciau llinell i’r mannau parcio gydag arwyneb tarmacadam newydd mewn rhai mannau mynediad / allanfa. Roedd y gwaith hefyd yn cynnwys gwaith draenio SUDS, safle bws a chysgodfa newydd, gosod pibelli tanddaearol newydd ar gyfer peiriannau Talu ac Arddangos, atgyweirio cyffredinol i waliau cerrig presennol, meinciau newydd, bolardiau a storfa beics. Cafodd y man picnic presennol ei ailwampio hefyd fel rhan o’r prosiect.
Roedd yr amserlen ar gyfer y prosiect yn allweddol, roedd angen cwblhau’r gwaith y tu allan i’r tymor brig a’i gwblhau cyn Ebrill 2024 i gydymffurfio ag amodau cyllid grant. Roedd angen cymeradwyaeth SAB ar gyfer y prosiect hwn hefyd.
Darparodd YGC ddogfennaeth dendro lawn ac ymgymerodd â rôl gweinyddwr contract a phrif ddylunydd ar y prosiect hwn. Ymgymerodd YGC â’r gwaith dylunio a rheoli’r prosiect o’r dechrau i’r diwedd. Dechreuodd y gwaith ar y safle ym mis Hydref 2023 a chafodd ei gwblhau ym mis Mawrth 2024. Darparodd YGC y gwasanaethau dylunio draenio a chafwyd cymeradwyaeth CCS llawn cyn cychwyn. Cwblhawyd y gwaith o fewn yr amserlen ofynnol. Rhedodd y prosiect yn esmwyth, yn bennaf oherwydd y cydweithrediad rhwng y cleient, rheolwr y prosiect a’r prif gontractwr.