Roedd angen i’r cyfleuster newydd fod yn aml-ddefnydd, yn gwasanaethu cleientiaid gyda dementia neu ordewdra, ac fel gorlif i’r prinder gwelyau yn Ysbyty Tywyn. Ariannwyd yr uned newydd yng Nghartref Gofal Preswyl Llys Cadfan, Tywyn yn rhannol drwy grant ICF gan Lywodraeth Cymru. Roedd y dyluniad yn ymgorffori’r gwaith o addasu canolfan gofal dydd a chodi dau estyniad newydd, gan gynnwys datblygu pum ystafell wely en-suite newydd gydag un yn en-suite bariatric. Gosodwyd gwasanaethau trydanol a mecanyddol newydd hefyd. Roedd y gwaith hefyd yn lliniaru’r effaith ar dderbynyddion ecolegol megis ystlumod, a chafwyd trwydded EPS briodol a gymeradwywyd gan CNC i ymgymryd â gwaith yng ngofod y to. Roedd gwaith allanol yn cynnwys tirweddu caled i addasu’r fynedfa gyda mynediad ramp yn y cefn a chyflwynwyd tirweddu meddal drwy blannu coed brodorol a choed ffrwythau.
Roedd gwasanaethau yn cynnwys tîm dylunio wedi’i arwain gan bensaer, a oedd yn cynnwys dyluniad pensaernïol, strwythurol, SM, M&E a draenio. Cafodd yr estyniadau eu dylunio’n ofalus er mwyn integreiddio’n soffistigedig i ffabrig y cartref gofal presennol. Mae delweddau cyfrifiadurol a’r defnydd o arferion gorau Modelu Gwybodaeth am Adeiladau (BIM) wedi cael eu cyflwyno i gyfathrebu’r syniadau yn llwyddiannus.
Bu YGC yn gweithio’n agos gyda’r cleient i ddatblygu’r prosiect a bu hefyd yn rheoli ac adolygu gwaith yr Ecolegwyr a benodwyd. Roedd YGC hefyd yn gyfrifol am weinyddu agwedd gytundebol y gwaith adeiladu drwy gyfrwng Contract JCT ar ffurf Ganolraddol 2016.
Er gwaethaf yr angen i ymestyn yr arian grant o fewn y flwyddyn ariannol, roedd angen dechrau’r gwaith heb y drwydded EPS. Roedd hynny’n golygu parhau â’r gwaith heb fynd i ofod y to. Yn y diwedd, derbyniwyd y drwydded EPS, a chafwyd effaith finimol ar y rhaglen adeiladu. Dyluniwyd yr holl ystafelloedd gwely a choridorau mynediad i safonau modern a chawsant eu hymgorffori o fewn cyfyngiadau adeilad presennol. Profodd hyn yn her nid yn unig o ran dyluniad ond hefyd o ran ymarferoldeb adeiladu’r prosiect, oherwydd bod angen i’r cartref gofal weithredu fel yr arfer yn ystod y gwaith.
Mae’r prosiect yn arddangos gallu dyluniad yn y sector iechyd a phreswyl. Roedd gweithrediad llwyddiannus y dyluniad wedi’i deilwra’n benodol ar gyfer Safonau Gofal Cymru. Mae hyn yn arddangos ein dealltwriaeth a’n harbenigedd yn y sector.