(01286) 679426 ygc@gwynedd.llyw.cymru

Gwelliannau A55 Abergwyngregyn i Tai’r Meibion

improvement works on the A55 at Abergwyngregyn
undercarageworks on the A55 at Abergwyngregyn
Mae Griffiths wedi’u penodi gan Lywodraeth Cymru i ymgymryd â gwaith gwella ar yr A55 yn Abergwyngregyn, Gwynedd. Bydd y cytundeb Dylunio ac Adeiladu yn gwella diogelwch ar hyd pellter o 2.2km o’r ffordd ddeuol, rhwng Cyffordd 12 a 13, drwy gael gwared ar fannau mynediad uniongyrchol ar yr A55 yn ogystal â chael gwared ar wyth bwlch yn y lleiniau canol sydd ar hyn o bryd yn caniatáu i gerbydau amaethyddol araf groesi’r A55.
Bydd y Prosiect hefyd yn cynnwys dros bedwar cilomedr o gyfleusterau teithio llesol gwell i annog beicio a cherdded, cefnogi egwyddorion cymdeithas carbon isel a bydd hefyd yn lleihau y risg o lifogydd ar yr A55, drwy adeiladu system ddraenio gwell, a cwlfert mwy i Afon Wig, a fydd yn hyrwyddo gwytnwch y ffordd.
I leihau aflonyddwch, bydd cymaint o waith â phosibl yn cael ei gwblhau i ddechrau, oddi ar yr A55, gan gynnwys adeiladu llwybr teithio llesol a mynediad cyfunol o 1.3km. Er mwyn sicrhau bod traffig yn dal i lifo ar y brif ffordd hon, bydd pedair lôn draffig yn cael eu cynnal yn ystod y dydd a bwriedir cwblhau’r gwaith adeiladu erbyn Hydref 2022.
 
Am ragor o wybodaeth ynglŷn â Gwelliannau i’r A55 rhwng Abergwyngregyn a Thai’r Meibion, ewch i: 
Rôl YGC: Asiant y Cyflogwr gan gynnwys Rheolwr Prosiect NEC3, Goruchwylwyr NEC3, ynghyd â thîm o arbenigwyr technegol gan gynnwys, Amgylcheddol, Draenio ac atal llifogydd, Strwythurau, Dylunio Palmentydd a Phriffyrdd. Cefnogwyd YGC gan Corderoy i gyflawni’r swyddogaeth Syrfewyr Meintiau o fewn y tîm Asiant y Cyflogwyr.
Griffiths: Contractwr Dylunio ac Adeiladu yn cyflawni rôl y Prif Gontractwr a Phrif Ddylunydd.
Mae rhagor o wybodaeth am y cynllun a cynnydd y gwaith ar safle ar gael ar wefan Gymunedol Griffiths: