(01286) 679426 ygc@gwynedd.llyw.cymru

Cynllun Teithio Llesol Ffordd Penrhos, Bangor, Gwynedd

Active Travel Project - Waterloo Port, Caernarfon
Cyclists on cycle track Active Travel Project - Waterloo Port, Caernarfon
Disgrifiad o’r Prosiect:

Mae Ffordd Penrhos yn darparu cyswllt hanfodol i’r holl gerddwyr, cymudwyr a myfyrwyr i ac o Fangor tra hefyd wedi bod yn un o’r prif rwydweithiau bysiau i mewn i’r Ddinas a’r Ysbyty gan gynnwys y gwasanaethau Sherpa a T2.

Fel rhan o’r Sgôp ar gyfer YGC, mae’r Tîm Cyflawni Prosiect yn cynorthwyo gyda Rheoli Prosiect a Goruchwylio Safle’r cynllun ar ran ein Cleient, Cyngor Gwynedd a Thrafnidiaeth Cymru.

Mae’r gwaith yn cynnwys adeiladu llwybr Teithio Llesol newydd rhwng Ysbyty Gwynedd a Ffordd Coed Mawr, a fydd hefyd yn cynnwys gosod 2 croesfan newydd ar gyfer Ysgol y Garnedd a Ffordd Coed Mawr gan ddarparu man croesi diogel a chysylltiadau i’r ysbyty a’r ysgolion cyfagos.

Dechreuodd y gwaith ger cyffordd Coed y Maes a bydd wedi’i anelu at gwblhau hyd at Heol Pen y Ffridd cyn gwyliau’r Nadolig.

Cyflawnwyd y dyluniad gan WSP, gydag YGC yn cymryd rôl y Prif Ddylunydd ac ymgymerodd â rôl caffael a Chyflawni Prosiect y cynllun.

Mae’r holl waith sifil yn cael ei wneud gan Griffiths Contractors Ltd. Ariennir prosiect gan Gronfa Teithio Llesol Llywodraeth Cymru ac a gefnogir gan Trafnidiaeth Cymru (TfW) .

I gael diweddariad o’r cynllun, ewch ar gwefan Griffiths

Neu i wybod mwy, ewch ar wefan Cyngor Gwynedd