(01286) 679426 ygc@gwynedd.llyw.cymru

Cynllun Atal Llifogydd Borth Y Gest

Cleient: Llywodraeth Cymru / Cyngor Gwynedd
Contractwr: K&C Group
Gwerth y Cynllun: £250,000
Dyddiad Cwblhau: Hydref 2018
Mae Borth y Gest yn gymuned arfordirol fechan ger Porthmadog, Gwynedd. Mae’r pentref yn gyrchfan boblogaidd i dwristiaid yn ystod misoedd yr haf, ac mae nifer fawr o bobl hefyd yn defnyddio Llwybr yr Arfordir sy’n dilyn trywydd y bae. Yn ystod blynyddoedd diweddar mae Borth y Gest wedi dioddef nifer o lifogydd. Y rheswm oedd bod y môr wedi mynd dros y llwybr troed ac wedi llifo ar hyd y briffordd ac i mewn i eiddo preswyl a masnachol.
Yn ystod camau cychwynnol y prosiect cynhaliwyd Adroddiad Gwerthuso Prosiect ar gyfer y pentref. Roedd hwn yn cynnwys adnabod ffynhonnell a llwybr y llif, datblygu opsiynau posib, peryglon, costau a chreu model hydrolig o’r bae.
Cynhaliwyd ymgysylltiad cyhoeddus gyda thrigolion lleol, cynghorwyr lleol, Cyfoeth Naturiol Cymru a Chyngor Gwynedd.
Gwnaed modelu gorlifo tonnau a hydrolig er mwyn hysbysu uchder dyluniad y clawdd newydd. Byddai’r amddiffynfa ar ôl ei hadeiladu yn gallu gwrthsefyll (hyd at ac yn cynnwys) digwyddiad sy’n 1 mewn 100 mlynedd. Roedd dyluniad y cloddiau yn golygu pe byddai angen codi eu huchder mewn blynyddoedd i ddod yn unol â rhagdybiaethau newid hinsawdd a chynnydd yn lefel y môr, y byddai’r sylfeini’n gallu dygymod â hyn. Gan fod bae Borth y Gest yn SoDdGA, cynhwyswyd asesiadau amgylcheddol manwl a dulliau gweithio llym (gan gynnwys y caniatadau a’r trwyddedau perthnasol) fel rhan o’r gwaith.
Yn rhan o’r cynllun mae morglawdd newydd ~170m, sy’n ehangu’r prif glawdd presennol yng nghanol y bae i amgylchynu bae Borth y Gest. Dyluniodd YGC y morglawdd i gysylltu â’r brif wal sydd wedi bodoli yn y bae ers y 1880au. Dyluniwyd y morglawdd newydd i allu gwrthsefyll pwysedd hydrostatig o’r môr a symudiad y tonnau.
Adeiladwyd y muriau o goncrid wedi’i atgyfnerthu wedi’i orchuddio mewn llechi lleol (o Flaenau Ffestiniog). Castiwyd y muriau yn y fan a’r lle drwy ddefnyddio ffurfwaith penodol i bob rhan o’r mur.  Roedd dwy lifddor yn y mur hefyd ger y llithrfa a’r fynedfa i gerddwyr. Ar hyd y wal mae nifer o dyllau draenio gyda falfiau di-ddychwel drwy’r wal i alluogi i unrhyw ddŵr wyneb lifo ymaith.
Un o elfennau allweddol dyluniad y mur oedd sicrhau ei fod yn cydweddu â’r ardal leol a’i fod yn asio gyda’r mur presennol. Llwyddwyd i wneud hyn drwy orchuddio’r wal â llechi lleol. Yn y dyluniad cafwyd nodweddion ychwanegol, gan gynnwys dwy fainc wedi’u gosod yn y mur, a thri phlac gwybodaeth o lechen.
Mewn cyfuniad â’r estyniadau i’r wal i amddiffyn rhag llifogydd llanwol, gosodwyd giât di-ddychwel yng nghilfach cwrs dŵr Afon Llety. Diben hyn oedd amddiffyn y pentref rhag dŵr llanwol a allai lifo i fyny’r cwlfert a pheri perygl llifogydd.