Pwll Nofio Bangor
Client: | Cyngor Gwynedd |
Contractwr: | DU Constructions Ltd |
Côst y gwaith: | £1 miliwn |
Cwblhad y gwaith: | 2015 |



Pwll Nofio Bangor yw prif bwll cystadlu a deifio y rhanbarth. Roedd angen adnewyddu ac uwchraddio rhannau o’r adeilad a’r cyfleusterau, a chomisiynwyd YGC gan Uned Eiddo Cyngor Gwynedd i ddylunio a rheoli’r gwaith. Roedd angen ceisio cadw’r cyfnod y byddai’r pwll ar gau i’r cyhoedd mor fyr â phosib.
Ariannwyd y prosiect o wahanol ffynonellau gan gynnwys cyllideb atgyweirio a chynnal-a-chadw’r Awdurdod, y gyllideb arbed ynni a chyllid yr Adran Hamdden. Bu’n rhaid ymgynghori â gwahanol gynrychiolwyr y cleient i geisio deall eu anghenion a chadarnhau’r briff. Wedyn cynhaliwyd arolygon manwl, a lluniwyd cynlluniau a manylebau. Comisiynwyd arolwg ailwampio asbestos ac arolwg amgylcheddol, a chyflwynwyd ceisiadau am ganiatâd Rheoliadau Adeiladu. Detholwyd prif gontractwr oddi ar fframwaith yr Awdurdod drwy gyfrwng porth e-dendro Cymru.
Un o brif elfennau’r gwaith oedd ailosod nenfwd neuadd y pwll a sicrhau bod y gwagle yn y to yn hygyrch ar gyfer gwaith cynnal-a-chadw yn y dyfodol. Ar ôl draenio a gwirio’r pwll, rhoddwyd deunydd amddiffynnol ar y waliau a’r llawr, a gosodwyd pwmp i ddraenio’r dŵr oedd dros ben. Wedyn codwyd sgaffald pwrpasol o’r math ‘birdcage’ gan gontractwr wedi’i gymeradwyo gan NASC.
Defnyddiwyd contractwr â thrwydded i waredu asbestos i gael gwared ar y nenfwd crog ac i wneud gwaith glanhau amgylcheddol ar wagle’r nenfwd. Tynnwyd gweddill strwythur a llwybrau cerdded y nenfwd, a chyflogwyd peiriannydd strwythurol i asesu’r gwaith dur a phenderfynu ar strwythur nenfwd newydd. Rhoddwyd deciau ar y distiau i roi mynediad ar gyfer cynnal gwaith cynnal-a-chadw, a gosodwyd bwrdd plastr gwrth-leithder gyda gorffeniad acwstig i ddarparu nenfwd newydd i’r neuadd.
Y gwaith uwchraddio mecanyddol a thrydanol oedd prif elfennau’r prosiect a’r gyllideb. Cwmni M&E Engineers yr Uned oedd yn gyfrifol am y gwaith dylunio a rheoli, a fyddai’n lleihau defnydd ynni’r eiddo yn sylweddol. Gwnaed gwaith ail-weirio sylweddol, ynghyd â gosod goleuadau ac offer sy’n defnyddio ynni’n effeithlon. Yn ogystal, gosodwyd system newydd ‘Poseidon drowning detection’ yn y pwll. Dyluniwyd y system gan ymgynghorwyr allanol, a chafwyd cymorth i osod y system gan dîm deifio wedi’i achredu.
Roedd y gwaith mecanyddol yn cynnwys ailosod y dwythellau, darparu ffilter dŵr a phwmp newydd ar gyfer y pwll, ynghyd â gosod cyfnewidiwr gwres ac uned trin aer. Gosodwyd gorchudd pwll i arbed ynni, ac o ganlyniad bu’n rhaid tynnu sleid allanol, y grisiau mewnol a’r offer cysylltiedig. Caewyd rhai o’r agoriadau yn y waliau ac adnewyddwyd yr holl ardaloedd a effeithiwyd.
