(01286) 679426 ygc@gwynedd.llyw.cymru

Astudiaeth Achos: Pont Sarnau, Dyffryn Ogwen

Disgrifiad o’r Prosiect:

Mae prosiect Pont Sarnau ym Methesda yn cynrychioli buddsoddiad pwysig mewn isadeiledd teithio llesol yn Nyffryn Ogwen.

Mae’r strwythur newydd 26-metr yn uwchraddio’r hen bont droed a oedd wedi cyrraedd diwedd ei hoes. Roedd yr hen bont wedi darparu cyswllt allweddol i gerddwyr yn yr ardal am ymhell dros ganrif.

Chwaraeodd YGC ran allweddol yn y prosiect drwy gynnal arolygon safle, dylunio’r bont a’r llwybr teithio llesol cysylltiedig, yn ogystal â goruchwylio’r gwaith adeiladu ar y safle. Mae’r bont newydd yn darparu cyswllt mwy diogel a chadarn i gerddwyr a defnyddwyr ar olwynion, gan gefnogi teithiau dyddiol a defnydd hamdden.

Mae’r cynllun yn rhan o raglen ehangach o welliannau i hyrwyddo dewisiadau teithio cynaliadwy yn yr ardal. Hefyd, mae’n cyfrannu at effaith Safle Treftadaeth y Byd Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru, gan gefnogi cymunedau lleol yn economaidd, yn gymdeithasol ac yn amgylcheddol.

Roedd gwaith ychwanegol yn cynnwys adeiladu tanffordd gwartheg, gan alluogi dileu nifer o gatiau ar hyd y llwybr. Gwnaeth hyn wella rhwyddineb defnydd y llwybr i’r cyhoedd wrth sicrhau nad oedd gweithgareddau amaethyddol yn cael eu hamharu.

Yn gyffredinol, mae Pont Sarnau yn enghraifft o gydweithio llwyddiannus rhwng Cyngor Gwynedd, YGC, contractwyr a rhanddeiliaid lleol, gan ddarparu manteision tymor hir i drigolion ac ymwelwyr â’r ardal.