(01286) 679426 ygc@gwynedd.llyw.cymru

Amddiffyn Arfordir Tywyn

Client:Cyngor Gwynedd
Contractwr:Jones Bros (Ruthin) Co. Ltd
Côst y gwaith:£6.6miliwn
Cwblhad y gwaith:Mawrth 2011

 

 

Mae’r ffrynt ar arfordir Tywyn wedi dioddef difrod sylweddol gan stormydd ers iddo gael ei adeiladu gyntaf yn y 1930au. Yn ystod y 100 mlynedd diwethaf mae lled y traeth wedi byrhau ac mae’r lefel wedi gostwng o 3m. Cyfrannodd erydiad y traeth a dirywiad y grwynau at danseilio wal y môr a gwelwyd cynnydd mewn llifogydd.
Datblygodd YGC ac Atkins gynllun ysbrydoledig i ddatrys y broblem gan gynnwys morglawdd alltraeth a grwynau carreg.
Adnewyddu’r wal forol, adfer y wal gynnal risiau ac yn awr roedd grwynau pren byrrach yn yn bosib, gan ymestyn oes dyluniad y strwythurau amddiffyn rhag llifogydd a gwella’r mynediad i’r traeth yn sylweddol.
Nid yn unig fod y cynllun wedi gostwng y risg o lifogydd i 78 o gartrefi ac amryfal fusnesau, ond mae hefyd wedi trawsnewid y traeth o fod mewn cyflwr adfeiliedig i amwynder wedi’i wella fydd yn hwb i dwristiaeth, i ragolygon busnes ac i gyfleoedd adfywio.
Roedd cyfnod ECI pan gwblhawyd ymarfer rheoli risg a gwerth peirianyddol  Caniataodd hyn i’r contractwr i gael gafael ar y cerrig angenrheidiol yn gynnar i ostwng y risg o oedi yn sgil tywydd garw.
Yn sgil y sicrwydd cost hwn, roedd Ymgynghoriaeth Gwynedd yn gallu rhyddhau rhagor o arian o’r arian wrth gefn ar gyfer risg yn ôl i’r Cynllun am waith ychwanegol, yn cynnwys wal a rheiliau promenâd newydd, parc cychod, llithrfeydd estynedig a rampiau i’r anabl, llochesi wedi’u hailwampio a thrwsio’r morglawdd.
Cafodd 30,000 tunnell o gerrig eu danfon ar y môr o St Malo, Ffrainc, gyda risg uchel o oedi oherwydd stormydd gan y byddai angen y cerrig ym mis Ionawr a Chwefror.
Danfonwyd 11,000 tunnell o gerrig ar lorïau o Benmaenmawr a Minffordd. Hefyd, cludwyd 9,000 tunnell pellach ar y ffordd o Chwarel Penmaenmawr i Borth Penrhyn ac yna ar y môr i Dywyn.
Defnyddiwyd pren wedi’i ailgylchu o’r Alban ar gyfer y grwynau; gan wella llwybr troed carbon y cynllun, a chynyddu cynaliadwyedd a rhoi sicrwydd i’r rhaglen.
Yn sgil cydweithio a chanolbwyntio llawer ar gynaliadwyedd, ynghyd â chysylltu â’r Gymuned a Budd-ddeiliaid, llwyddodd y cynllun hwn i gael enw fel Prosiect Enghreifftiol, ac fe enillwyd gwobr am y gwaith, sef Gwobr ICE George Gibby gyda Chlod Uchel.