Prif amcan y datblygiad arfaethedig oedd gwneud gwelliannau strwythurol i strwythur Pentan Dwyreiniol Pont y Foryd, Rhyl. Mae’r bont yn ymestyn dros Afon Clwyd ac yn cysylltu cymunedau Rhyl a Thowyn. Mae’r strwythur rhestredig Gradd II hwn yn enwog yn yr ardal leol ac mae’n hanfodol i ffyniant yr ardal, yn enwedig am ei fod yn darparu mynediad i dwristiaid ar hyd yr A548.
Roedd angen gwneud gwaith i amnewid dec a cholofnau’r strwythur cyfredol (a adeiladwyd yn y 1930au), gan eu bod wedi dirywio i gyflwr lle’r oedd colli’r rhan sy’n atgyfnerthu’r bont yn cyfaddawdu gallu’r strwythur i gario’r llwyth traffig cyfredol. Mae’r gwaith yn sicrhau bod y cyswllt hanfodol hwn yn cael ei ddiogelu ar gyfer y dyfodol gan gynnig datrysiad gwydn.
Mae’r A548 yn ffordd brysur ac mae’n hanfodol i ardal Rhyl. Felly, roedd y gwaith wedi’i ddylunio fel y gellid ailadeiladu’r strwythur gan achosi cyn lleied o drafferth i’r cyhoedd a gwasanaethau lleol â phosib wrth i ddec y bont gael ei amnewid.
I gyflawni hyn, defnyddiwyd trawstiau a rhannau parapet a oedd wedi’u castio’n barod fel y gellid codi’r rhannau i’w lle a’u plethu ynghyd gyda choncrid pan fyddai’r bont gyfan ar gau. Y nod oedd y byddai’r gwaith, ar ôl ei gwblhau, yn dyblygu edrychiad y bont gyfredol cymaint â phosib, a thrwy hynny gadw holl rinweddau gweledol statws Rhestredig Gradd II y bont.
Yn ogystal â chael barn sgrinio gan yr awdurdod cynllunio lleol ynghylch p’un a oedd y gwaith angen Asesiad Effaith Amgylcheddol, roedd YGC yn gyfrifol am sicrhau bod pob caniatâd a thrwydded wedi’u cael ar gyfer y prosiect, a oedd yn cynnwys:
Trwydded Forwrol ar gyfer y gwaith islaw terfyn cymedrig llanw uchel y gwanwyn.
Caniatâd Amddiffynfeydd Llifogydd ar gyfer y gwaith parhaol a dros dro ar orlifdir Afon Clwyd.
Caniatâd Adeilad Rhestredig i wneud gwaith ar y strwythur rhestredig Gradd II.
Yn ogystal, bu i YGC ddarparu goruchwyliaeth bwrpasol ar y safle drwy gydol y cyfnod adeiladu.