(01286) 679426 ygc@gwynedd.llyw.cymru

A470 Gwelliant o Faes yr Helmau i Cross Foxes

 

Client:  Llywodraeth Cymru
Contractwr:  Alun Griffiths (Contractors) Ltd
Cost y Cynllun:  £7.3 milliwn
Dyddiad cwbwlhau:  Hydref 2013

 

 

Gwybodaeth Prosiect

Priffyrdd  

Bwriad y Cynllun Gwella ar yr A470 o Faes yr Helmau i’r Cross Foxes oedd lledu’r ffordd a gwella diogelwch ar ran gul o’r brif gefnffordd hon oedd â throeon cyfyng a gwelededd cyfyngedig ac nad oedd arni unrhyw ymylon ffordd.

Fel rhan o’u rôl i gynnal Asesiad Effaith Amgylchedd (AEA) o’r cynllun prif gefnffordd hwn, comisiynodd YGC Arolwg Cynefinoedd Cam 1 o goridor y cynllun yn 2002. Bu i’r asesiad adnabod coedwigoedd oedd yn cynnwys cynefin addas ar gyfer y pathew Muscardinus avellanarius, sy’n Rhywogaeth Gwarchodedig Ewropeaidd. Arweiniodd hyn at gynnal arolygon yn 2003 a datgelodd rhain bod tair cneuen gyll yn arddangos arwyddion nodedig eu bod yn cael eu hagor gan bathew – un ohonynt yn oedolyn – ym mhen gogledd-orllewinol coridor y cynllun, felly cadarnhawyd bod y goedwig hon ble daethpwyd o hyd i’r dystiolaeth yn gynefin byw i’r pathew.   Yn 2004, cynhaliwyd arolwg ehangach yn yr ardal hon ac o’i chwmpas, a chofnodwyd hen nyth pathew fel rhan o’r gwaith.

Gan y byddai cynefin oedd yn cefnogi poblogaeth fyw o bathewod yn cael ei golli yn sgil y cynllun, roedd angen Trwydded Rhywogaethau Gwarchodedig Ewropeaidd, ynghyd â mesurau lliniaru a gwneud iawn helaeth. Heb fesurau lliniaru, gallai’r cynllun arwain at farwolaeth pathewod a cholli safleoedd nythu a chynefin bwydo. Roedd angen i unrhyw gamau lliniaru ystyried bioleg y pathew, sy’n famolyn coedol, gan ei fod yn byw yng nghanopi’r coed a’r llwyni yn ystod misoedd yr haf ac yna’n gaeafgysgu yn y ddaear dros y gaeaf.  Cynigwyd y camau lliniaru a ganlyn:

  • Proses dau gam o waredu llystyfiant cyn adeiladu, i osgoi amharu ar y pathewod neu arwain at eu marwolaeth. Roedd hyn yn cynnwys tocio llystyfiant yn ystod misoedd y gaeaf pan fyddai’r pathewod yn gaeafgysgu a byddai hyn yn annog y pathewod oedd yn deffro yn y gwanwyn i symud i ardaloedd o lystyfiant oedd wedi’u cadw gerllaw.   Yna gellid tynnu’r prif wreiddiau o’r ddaear yn ystod misoedd yr haf pan fyddai’r pathewod yn ddiogel yng nghanopi’r ardaloedd oedd wedi’u cadw.
  • Gosod 50 o flychau nythu i bathewod yn yr ardal o’r goedwig oedd wedi’i chadw y gwyddys ei bod yn cefnogi pathewod, i gynyddu capasiti’r ardal ar gyfer pathewod a lliniaru’r effaith o golli’r goedwig.

 

  • Darparu pont i’r pathewod mewn ceuffos fawr newydd i gysylltu’r darn o goedwig y gwyddys ei bod yn cefnogi pathewod at goedwig ar ochr arall y ffordd, gan liniaru’r effaith o golli canopi cysylltiedig oedd yn ymestyn dros y ffordd. Roedd y strwythur hwn yn cynnwys bwndel o raffau trwchus wedi’u crogi o do’r geuffos drwy gyfres o gylchoedd metel ac yna a oedd yn fforchio i’r goedwig ym mhob pen ac yn cael eu clymu at foncyffion coed aeddfed. Trawsleolwyd y goedlan gyll o’r ardal ble cliriwyd y safle i ddarparu llwyn trwchus ar bob pen i’r geuffos.
  • Monitro blychau’r pathewod am gyfnod o 5 mlynedd wedi iddynt gael eu hadeiladu, a chamera awtomatig yn monitro strwythur pont y pathewod am y flwyddyn gyntaf wedi iddi gael ei gosod, i sicrhau bod y mesurau lliniaru wedi’u cyflwyno’n llwyddiannus.

Ar ben hynny, byddai’r camau lliniaru a gwneud iawn a fwriadwyd ar gyfer y goedwig a gollwyd yn Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) Coedydd Derw a Safleoedd Ystlumod Meirion, yn fanteisiol i’r boblogaeth pathewod yn yr ardal hon. Roedd hyn yn cynnwys gwaith plannu coedwig helaeth mewn ardal oedd yn fwy na’r ardal a gollwyd, a rheoli’r goedwig is-safonol ar draws y ffordd, i gynyddu’r haen o berlysiau a llwyni fyddai’n ei gwneud yn ardal addas i bathewod yn y dyfodol.

Cynhaliwyd yr arolygon cyntaf i osod a monitro blychau nythu’r pathewod yn 2011, flwyddyn cyn dechrau’r cyfnod adeiladu. Ni chofnodwyd pathewod na thystiolaeth o bathewod bryd hynny.

Yn ystod y gwaith adeiladu (2012-2013), cai’r blychau eu monitro yn fisol yn ystod misoedd yr haf a chofnodwyd pathew a oedd yn oedolyn benywaidd bob blwyddyn, ac roedd hyn yn cadarnhau presenoldeb parhaus poblogaeth fechan o bathewod yn yr ardal. Gwelwyd bod rhywogaethau eraill yn defnyddio’r blychau nythu, yn cynnwys llygod maes, titw tomos las, titw mawr, dryw a hyd yn oed pâr o wybedog brith, rhywogaeth sy’n peri pryder cadwriaethol yng Nghymru gan y gwelwyd gostyngiad o 50% yn y boblogaeth dros y 25 mlynedd ddiwethaf.

Mae’r gyfres gyntaf o arolygon monitro ôl-adeiladu yn dirwyn i ben, a gwelwyd cynnydd yn y canlyniadau.  Cofnodwyd oedolyn benywaidd ym mis Awst 2014 ac roedd ganddi ddau bathew bychan 2-3 wythnos oed.  Felly, dyma’r cofnod cyntaf o fridio pathewod yn y goedwig ac awgryma hyn bod y camau lliniaru helaeth wedi bod yn werth y gwaith.