Prosiect Gilfach Ddu: Llwyddiant mewn Safle Treftadaeth y Byd
Disgrifiad o’r Prosiect:
Cleient – Adran Economi a Chymuned – Cyngor Gwynedd
Mae YGC wedi cwblhau cam allweddol o brosiect cyffrous ym Mharc Padarn, Llanberis – safle sy’n rhan o Dirwedd Llechi Llewyrchus GogleddOrllewin Cymru, Statws Treftadaeth y Byd UNESCO.
Roedd y prosiect yn cynnwys dymchwel y bloc toiledau presennol a chodi adeilad newydd sbon sy’n cyfuno:
- Bloc toiledau modern,
- Swyddfeydd,
- Ystafell ddehongli,
- Yn ogystal ag amrywiaeth o waith allanol a draenio.
Yn ogystal â’i ymrwymiad i safonau dylunio uchel, sicrhaodd YGC fod yr adeilad yn defnyddio paneli solar PV i wella effeithlonrwydd ynni – gan gyd-fynd â nodau cynaliadwyedd y Cyngor.
Cydweithio mewn lleoliad sensitif
Fel safle hanesyddol gyda nifer o adeiladau rhestredig a thenantiaid gwahanol o’i gwmpas, roedd angen dull gofalus a chydweithredol.
Gweithiodd tîm YGC yn agos gyda:
- CADW,
- Pensaer cadwraeth y prosiect,
- Peirianwyr strwythurol a draenio,
- A Phennaeth Wardeiniaid Parc Padarn.
Yn ogystal, bu YGC yn gyfrifol am y dyluniad manwl, yr NBS llawn, y dogfennau contract, a’r rôl Uwch Ddylunydd.
Canlyniadau cadarnhaol
Er bod y prosiect yn cynnwys sawl elfen gymhleth – o waith dymchwel i beirianneg fecanyddol ac elfennau tirwedd – llwyddodd YGC i sicrhau prosiect esmwyth a chadw’r gwaith o fewn y gyllideb.
Cynhaliwyd:
- Ymweliadau safle wythnosol,
- Cyfarfodydd cynnydd misol,
- A chydweithio clos â’r contractwr a’r tîm tirwedd.
Mae’r adeilad newydd, sy’n defnyddio deunyddiau naturiol i weddu tirwedd, bellach yn ychwanegu at brofiad ymwelwyr Parc Padarn. Mae’r gwaith allanol i’w gwblhau erbyn Chwefror 2026.
Gyda gwerth contract o £1.81m, mae’r prosiect yn dyst i’r hyn sy’n bosibl drwy gynllunio trylwyr, cyfathrebu clir a chydweithio agos.
Mae’n enghraifft arall o sut mae YGC yn darparu gwasanaeth proffesiynol o’r radd flaenaf.