Isadeiledd Gwefru Cerbydau Trydan – Cyngor Gwynedd
Disgrifiad o’r Prosiect:
| Cleient: Cyngor Gwynedd |
| Gwerth y Prosiect: £1.27m |
| Cyfnod Cwblhau: 2024–2025 |
Yr Her
Roedd Cyngor Gwynedd yn gofyn am raglen ar draws y sir i gefnogi’r broses o drosglwyddo ei fflyd weithredol o gerbydau petrol a disel i gerbydau trydan. Roedd hyn yn cynnwys gosod isadeiledd gwefru cerbydau trydan (EV) ar draws ystod amrywiol o safleoedd gweithredol byw, gan gynnwys depos, swyddfeydd, canolfannau hamdden a meysydd parcio cyhoeddus – pob un â chapasiti trydanol, cyfyngiadau gofodol a gofynion gweithredol gwahanol.
Ein Dull
Cyflwynodd YGC raglen strwythuredig, safle-benodol a oedd yn cyfuno asesiadau dichonoldeb, dylunio trydanol a sifil, a goruchwyliaeth ar y safle. Cafodd pob lleoliad ei asesu’n unigol er mwyn mynd i’r afael â chyfyngiadau technegol a sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion statudol a safonau’r diwydiant. Cafodd y gwaith ei drefnu’n ofalus er mwyn cynnal parhad gweithredol ac i gyd-fynd â amserlenni cyflenwi cerbydau.
Cafodd safleoedd llai eu cydlynu gyda thimau trydanol mewnol y Cyngor, tra cafodd safleoedd mwy cymhleth eu tendro a’u rheoli drwy gontractwyr allanol. Roedd llywodraethu cryf, cyfarfodydd cynnydd rheolaidd a gwiriadau comisiynu manwl yn sicrhau ansawdd a diogelwch cyson ar draws pob safle.
Yr Ateb
Arweiniodd y rhaglen at osod, profi a chomisiynu llwyddiannus dros 60 pwynt gwefru cerbydau trydan, yn bennaf unedau 7 kW, gyda gwefrwyr capasiti uwch wedi’u gosod lle’r oedd hynny’n ofynnol yn weithredol. Galluogodd yr isadeiledd gyflwyno 48 cerbyd trydan ar unwaith, gyda chapasiti ar waith ar gyfer 24 cerbyd ychwanegol sydd eisoes ar archeb.
Y Canlyniad
- 100% o’r safleoedd a gynlluniwyd wedi’u cyflawni a’u comisiynu
- Rhaglen wedi’i chwblhau ar amser ac yn unol â’r gofyn
- Dim materion cytundebol na diffygion heb eu datrys
- Tarfu lleiaf posibl ar wasanaethau gweithredol
Prif Fanteision
- Profiad o gyflawni rhaglenni isadeiledd cymhleth, aml-safle
- Arweinyddiaeth dechnegol gref mewn peirianneg drydanol a sifil
- Profiad o weithio mewn amgylcheddau gweithredol byw
- Cyfraniad uniongyrchol at nodau datgarboneiddio a chynaliadwyedd