(01286) 679426 ygc@gwynedd.llyw.cymru

Ffordd Osgoi Caernarfon a Bont Newydd CGA 

Cleient:Llywodraeth Cymru / TACP Architects Ltd
Contractwr:Jones Bros/ Balfour Beatty
Cost y Gwaith:£139 miliwn
Dyddiad Cwblhau:Chwefror 2022
Mae cynllun ffordd osgoi Caernarfon a Bontnewydd yn un o brosiectau isadeiledd diweddar, mwyaf yng Ngogledd Cymru. Bydd y ffordd yn ymestyn dros gyfanswm o 9.8km o gylchfan Plas Menai, o amgylch Caernarfon, Bontnewydd, Dinas a Llanwnda i gylchfan Y Goat ar yr A499/A487. Bydd y ffordd osgoi yn sicrhau amseroedd teithio gwell, yn lleihau tagfeydd, yn gwella ansawdd aer ar ffyrdd lleol, ac yn gwella diogelwch teithio llesol yn yr ardal.
Comisiynwyd YGC gan TACP i ymgymryd â swydd Clerc Gwaith Amgylcheddol (CGA) yn ystod gwaith adeiladu’r ffordd osgoi newydd. Rôl Clerc Gwaith Amgylcheddol yw rhoi cyngor ar faterion amgylcheddol yn ystod y broses adeiladu, er mwyn sicrhau bod y cynllun yn cydymffurfio â deddfwriaeth ac arfer da. Y prif faterion sy’n codi yn ystod y gwaith adeiladu o’r fath yw rhywogaethau a warchodir, llygredd, rheoli dŵr wyneb, rheoli deunyddiau, ansawdd aer a sŵn.
Rhywfaint o waith allweddol y CGA ar y cynllun oedd:
  • Monitro a chydlynu gwaith i reoli rhywogaethau anfrodorol ymledol (INNS)
  • Monitro’r gwaith o gynnal a chadw ffensys ystlumod dros dro a’i addasu wrth i’r cynllun fynd rhagddo
  • Cydlynu gwiriadau a goruchwyliaeth ecolegol
  • Rheoli adnoddau dŵr a phyllau gwanhau
  • Rheoli dŵr wyneb ac atal llygredd
  • Darparu gwelliannau bioamrywiaeth i strwythurau
Yn ogystal a ymgymryd a gwaith CGA, cafwyd tîm ecoleg YGC eu comisiynu i gynnal arolygon ar draws y cynllun. Roedd yr arolygon yn cynnwys:
Arolygon pyllau amffibiaid
Comisiynwyd YGC gan TACP i gynorthwyo gydag arolygon pyllau o amgylch yr cynllun i gasglu data ar boblogaeth presennol amffibiaid ar gyfer monitro’r boblogaeth yn dilyn cwblhau ac agor y ffordd newydd. Roedd yr arolygon yn cynnwys dull o ddefnyddio  fflach lampau i gyfri niferoedd, trapio mewn poteli a chwilio am wyau.
Arolwg draenio amffibiaid
Comisiynodd TACP ac ACGChC YGC i gynnal arolygon o gylïau a system ddraen ar hyd y ffordd newydd i sefydlu beth yw gwaelodlin poblogaeth amffibiaid yn y system ddraenio, er mwyn asesu effaith gall y system ei chael ar amffibiaid unwaith bydd y ffordd wedi agor. Roedd yr arolygon yn cynnwys gosod tua 40 o rwydi mewn gylïau  ar hyd y cynllun, a oedd wedyn yn cael eu ymchwilio’n wythnosol i ganfod a rhyddhau unrhyw amffibiaid a oedd wedi’u dal.
Rhagwelir bydd yr arolygon yn parhau unwaith bydd y ffordd wedi agor yn gynnar yn 2022, ac fydd y data yn cael ei ddefnyddio i fonitro’r effaith y system ddraenio ar amffibiaid ar ôl i’r gwaith adeiladu orffen. 
Arolygon ystlumod
Comisiynwyd YGC gan TACP i gefnogi cyfres o arolygon ystlumod ar hyd y cynllun gyfan. Roedd yr arolygon yn hanfodol i fonitro effaith y ffordd ar ystlumod, ac i fonitro llwyddiant posibl cylfatiau a osodwyd fel llwybrau ystlumod ar hyd llinellau gwrychoedd a choed.
Gwaith gwylio ecolegol
Comisiynwyd YGC gan TACP i gynnal gwaith gwylio ecolegol ar gyfer rhywogaethau wedi’u gwarchod yn ystod y gwaith, yn benodol tra roedd contractwyr yn clirio llystyfiant, tynnu haen uchaf o bridd ac yn cynnal unrhyw waith ger cyrsiau dŵr.