(01286) 679426 ygc@gwynedd.llyw.cymru

Mae YGC wedi ei restru fel un o 100 prif gwmnïau i weithio iddynt ar gyfer 2019, ac wedi derbyn Canmoliaeth Uchel yng nghategori ‘Effaith ar Wydnwch Hinsawdd’ (Impact in Climate Resilience) yng Ngwobrau Cwmnïau’r Flwyddyn y New Civil Engineer 2019.

Mae rhestr bŵer #NCE100 yn cydnabod y cwmnïau mwyaf blaengar ac arloesol sy’n gweithredu o fewn peirianneg sifil heddiw.

Roedd ein henwebiad yn y categori ‘Effaith ar Wydnwch Hinsawdd’ yn edrych ar sut bydd newid hinsawdd yn cael dylanwad mawr ar ein dull o reoli’r arfordir sy’n amgylchedd deinamig iawn ac yn newid yn barhaus – o fewn y gymuned rheoli’r arfordir o leiaf, ond o bosib yn llai felly o fewn y cymunedau y mae’n effeithio fwyaf arnynt.

Sylwadau’r beirniad

“This submission captured the reality of developing a practical resilience plan for a community living with the risks of climate change. The skill shown in engaging and educating the community of their growing climate change risk resulted in ownership by the community. The collaboration across organisation working in support developed the human resilience of the community setting a best-practice example for others to adopt.”

Effaith ar Wydnwch Hinsawdd

Yn Fairbourne, rydym wedi cymryd camau mawr i ddeall y gyrwyr ffisegol ar gyfer newid ond megis crafu’r wyneb ydym ni o ran y newid gwleidyddol, cymdeithasol ac agwedd sydd ei angen i fynd i’r afael â’r angen am addasu – mae ein gwybodaeth am newid hinsawdd yn rhedeg yn gyflymach na gallu’r cyrff cyhoeddus a gallu’r cyhoedd i ymateb ac addasu. Mae cysyniad o ‘Brif Gynllun’ (y cynllun hir-dymor i ddadgomisiynu pentref Fairbourne yn y pendraw i baratoi ar gyfer dechrau’r trydydd cyfnod, yr amcangyfrifir iddo fod yn 2055) wedi’i ddatblygu er mwyn galluogi i ymchwil penodol gael ei wneud i ddarparu ymatebion i’r cwestiynau cymhleth hyn.

Mae Prif Gynllun Fairbourne yn ymchwilio’n llawnach i beth yw’r perygl llifogydd a sefydlu fframwaith i’w fonitro yn y dyfodol. Drwy ymgysylltu â chymunedau a budd-ddeiliaid lleol, rydym yn amlygu peryglon newid hinsawdd drwy’r prosiect amlasiantaethol, bwrdd Fairbourne: Symud Ymlaen. 

Dywedodd y Cynghorydd Catrin Wager, Aelod Cyngor Gwynedd: “mae derbyn Canmoliaeth Uchel yn y maes yma ar lefel cenedlaethol yn rhoi cydnabyddiaeth am y gwaith caled y mae’r tîm yn YGC yn ei gyflawni sy’n ymwneud ac ymateb i’r bygythiad newid hinsawdd yng Ngwynedd a thu hwnt”.

Ym mis Mawrth 2019 – Dywedodd y Cynghorydd Gareth Griffith, Aelod Cyngor Gwynedd: “Llongyfarchiadau i’r tîm yn YGC am gyrraedd rhestr fer gwobr mor arwyddocaol yn y sector Peirianneg.” 

Dywedodd Huw Williams, Pennaeth YGC “Rydym wrth ein bodd ein bod wedi derbyn Canmoliaeth Uchel am ein henwebiad yn y categori Effaith ar Wydnwch Hinsawdd. Mae’r drefn lywodraethu o fewn y prosiect Fairbourne: Symud Ymlaen, ynddi’i hun, yn hynod effeithiol.

Mae trigolion wedi bod ar daith seicolegol gyfnewidiol ers yr adroddiadau yn y cyfryngau ddechrau mis Mawrth 2014 a gyflwynodd wybodaeth anghywir sydd wedi bod yn gwmwl uwch ben y pentref byth ers hynny. Mae’r teimladau cychwynnol o sioc, dicter, anghrediniaeth ac yn olaf cydnabyddiaeth, bellach yn golygu bod y trigolion yn chwarae rhan weithredol yn y prosiect a dyfodol y gymuned ac mae sawl agwedd ar lywodraethu wedi’u datganoli i lawr i’r gymuned yn effeithiol i’r pwynt lle maen nhw’n gwneud awgrymiadau am y ffordd ymlaen ac am gymryd cyfrifoldeb dros eu dyfodol eu hunain – beth bynnag y bydd hwnnw. 

Hoffwn ddiolch i fwrdd amlasiantaethol Fairbourne: Symud Ymlaen a’r staff sy’n gweithio ar y prosiect heriol hwn.”.