{"id":37626,"date":"2023-05-03T16:06:47","date_gmt":"2023-05-03T16:06:47","guid":{"rendered":"https:\/\/ygc.cymru\/?p=37626"},"modified":"2023-05-04T08:59:18","modified_gmt":"2023-05-04T08:59:18","slug":"cyngor-gwynedd-y-cynnal-agoriad-swyddogol-pont-bodefail","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/ygc.cymru\/cy\/cyngor-gwynedd-y-cynnal-agoriad-swyddogol-pont-bodefail","title":{"rendered":"Cyngor Gwynedd yn cynnal agoriad swyddogol Pont Bodefail"},"content":{"rendered":"<p>[et_pb_section fb_built=&#8221;1&#8243; _builder_version=&#8221;4.20.0&#8243; _module_preset=&#8221;default&#8221; custom_padding=&#8221;||0px|||&#8221; global_colors_info=&#8221;{}&#8221;][et_pb_row _builder_version=&#8221;4.20.0&#8243; _module_preset=&#8221;default&#8221; global_colors_info=&#8221;{}&#8221;][et_pb_column type=&#8221;4_4&#8243; _builder_version=&#8221;4.20.0&#8243; _module_preset=&#8221;default&#8221; global_colors_info=&#8221;{}&#8221;][et_pb_text _builder_version=&#8221;4.20.0&#8243; _module_preset=&#8221;default&#8221; global_colors_info=&#8221;{}&#8221;]<\/p>\n<h1><strong>Cyngor Gwynedd yn cynnal agoriad swyddogol Pont Bodefail<\/strong><\/h1>\n<p>[\/et_pb_text][\/et_pb_column][\/et_pb_row][\/et_pb_section][et_pb_section fb_built=&#8221;1&#8243; _builder_version=&#8221;4.20.0&#8243; _module_preset=&#8221;default&#8221; custom_padding=&#8221;0px|||||&#8221; global_colors_info=&#8221;{}&#8221;][et_pb_row _builder_version=&#8221;4.20.0&#8243; _module_preset=&#8221;default&#8221; global_colors_info=&#8221;{}&#8221;][et_pb_column type=&#8221;4_4&#8243; _builder_version=&#8221;4.20.0&#8243; _module_preset=&#8221;default&#8221; global_colors_info=&#8221;{}&#8221;][et_pb_image src=&#8221;https:\/\/ygc.cymru\/wp-content\/uploads\/2023\/05\/Agoriad-Swyddogol-Pont-Bodefail-12-scaled.webp&#8221; title_text=&#8221;Agoriad Swyddogol Pont Bodefail-12&#8243; _builder_version=&#8221;4.20.0&#8243; _module_preset=&#8221;default&#8221; global_colors_info=&#8221;{}&#8221;][\/et_pb_image][\/et_pb_column][\/et_pb_row][\/et_pb_section][et_pb_section fb_built=&#8221;1&#8243; _builder_version=&#8221;4.20.0&#8243; _module_preset=&#8221;default&#8221; custom_margin=&#8221;-147px|||||&#8221; global_colors_info=&#8221;{}&#8221;][et_pb_row _builder_version=&#8221;4.20.0&#8243; _module_preset=&#8221;default&#8221; global_colors_info=&#8221;{}&#8221;][et_pb_column type=&#8221;4_4&#8243; _builder_version=&#8221;4.20.0&#8243; _module_preset=&#8221;default&#8221; global_colors_info=&#8221;{}&#8221;][et_pb_text _builder_version=&#8221;4.20.0&#8243; _module_preset=&#8221;default&#8221; global_colors_info=&#8221;{}&#8221;]<\/p>\n<p><em>Llun o weithwyr YGC<\/em><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>Mae pont allweddol yn Ll\u0177n wedi agor, yn benllanw ar bedair blynedd o waith a buddsoddiad o hyd at \u00a33 miliwn oedd yn cynnwys gwelliannau i\u2019r ffordd a gwaith draenio dwr wyneb ac mewn da bryd ar gyfer croesawu\u2019r Eisteddfod Genedlaethol i\u2019r fro.<\/p>\n<p>Ddydd Mercher, 3 Mai, cafwyd agoriad swyddogol i Bont Bodefail, sy\u2019n croesi Afon Rhyd-hir ac yn ffurfio rhan o\u2019r A497 rhwng Nefyn a Phwllheli. Mae\u2019r bont newydd yn cymryd lle\u2019r hen Bont Bodfal.<\/p>\n<p>Datgelwyd enw newydd y bont yn ystod y seremoni, sef cyfuniad o enwau y ddau bentref agosaf i\u2019r bont \u2013 Boduan ac Efailnewydd. Bathwyd yr enw gan Magi Griffiths, disgybl Blwyddyn 2 yn Ysgol Pentreuchaf, a ddaeth i\u2019r brig mewn cystadleuaeth i blant y fro.<\/p>\n<p>Mae amddiffyn a dathlu enwau lleoedd cynhenid Cymreig yn flaenoriaeth i Gyngor Gwynedd ac roedd Meirion McIntyre Huws, Swyddog Prosiect Hybu a Hyrwyddo\u2019r Gymraeg y Cyngor, ar y panel a ddewisodd yr enw.<\/p>\n<p>Caewyd yr hen Bont Bodfal \u2013 sy\u2019n sefyll ers y 19eg Ganrif ac yn strwythur rhestredig Gradd II \u2013 yn Ionawr 2019 yn dilyn storm pan daeth i\u2019r amlwg fod difrod a dirywiad sylweddol wedi bod i\u2019w sylfeini. Yn anffodus, rhaid oedd dargyfeirio traffig wyth milltir i\u2019r Ff\u00f4r am gyfnod byr, tra cynhaliwyd gwaith argyfwng i osod pont dros dro a thrwsio\u2019r hen bont.<\/p>\n<p>Rhoddwyd ystyriaeth i weld os byddai\u2019n bosib lledaenu\u2019r hen bont a\u2019i gwneud yn addas ar gyfer anghenion rhwydwaith traffig heddiw. Ond wedi trafodaethau gyda Cadw a swyddogion cadwraeth, daeth i\u2019r amlwg na fyddai hyn yn bosib a dechreuwyd ar y prosiect hir-dymor o godi pont newydd sbon.<\/p>\n<blockquote>\n<p>Dywedodd y Cynghorydd Berwyn Parry Jones, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros Adran Priffyrdd, Peirianneg a YGC (Ymgynghoriaeth Gwynedd) : \u201cMae\u2019r A497 yn ffordd strategol bwysig i\u2019r bobl sy\u2019n byw ac yn gweithio yn y rhan yma o Wynedd, felly mae\u2019n braf cael bod yma ar ddiwrnod cyffrous a hanesyddol. Mae\u2019r bont a\u2019r ffordd newydd yn addas i anghenion modern a bydd yn gweud bywyd yn haws i bobl leol deithio o A i B. Mae\u2019r hen Bont Bodfal wedi ei gwarchod fel ffordd hamdden ar gyfer cerddwyr a beicwyr.<\/p>\n<p>\u201cDwi\u2019n gwybod fod pethau wedi bod yn anodd dros y blynyddoedd diweddari\u2019r tra roedd y gwaith yn mynd yn ei flaen a dwi\u2019n hynod ddiolchgar am amynedd y gymuned leol drwy gydol y cyfnod hwn.<\/p>\n<p>\u201cMae Cyngor Gwynedd yn ymfalch\u00efo yn y ffaith ein bod yn gallu darparu gwasanaethau\u00a0 dylunio, peirianyddol a rheoli prosiect a chynnig gyrfaoedd arbenigol a phroffesiynol yn y maes i bobl leol. Mae datblygiad Pont Bodefail yn enghraifft wych o hyn ac mae\u2019r buddsoddiad yma yn y rhan hon o\u2019r sir wedi bod werth chweil.<\/p>\n<p>\u201cRydw i hefyd yn falch fod ecolegwyr y Cyngor wedi cydweithio a\u2019n peirianwyr er mwyn sicrhau fod yr amgylchedd naturiol a physgodfeydd yn yr afon yn cael eu gwarchod drwy gydol y gwaith.\u201d<\/p>\n<p>Torrwyd y rhuban gan y Cynghorydd Anwen Davies, yr Aelod Lleol dros ward Buan ac Efailnewydd. Meddai: \u201cRoedd yn bleser cael bod yn rhan o\u2019r seremoni heddiw. Mae\u2019r bont newydd werth ei gweld a dwi\u2019n falch hefyd bydd yr hen bont dal yn ei lle gan ei bod o bwysigrwydd hanesyddol lleol ac y bydd dal i fod ar gael i bobl fynd am dro neu ar eu beics, yn ddiogel oddi wrth traffig y brif ffordd.<\/p>\n<p>\u201cDwi\u2019n si\u0175r bydd pobl leol yn falch fod y bont newydd yn agored a bydd yn gwneud bywyd yn fwy hwylus. Mae cymaint o edrych ymlaen hefyd at Eisteddfod Genedlaethol Ll\u0177n ac Eifionydd, gyda Maes y brifwyl dafliad carreg oddi wrth y bont, felly mae pawb yn falch fod y ei bod yn barod at pan byddwn yn croesawu eisteddfodwyr o bob cwr o Gymru, a thu hwnt, yma i\u2019r ardal.<\/p>\n<p>\u201cMae hon yn ardal boblogaidd gyda thwristiaid hefyd felly bydd y bont newydd yn helpu i ni fedru ymdopi \u00e2 thraffig ychwanegol y cyfnod gwyliau prysur wrth i bobl ddod yma i fwynhau cefn gwlad Ll\u0177n.\u201d<\/p>\n<\/blockquote>\n<p>Mae\u2019r bont newydd tua 17 medr o hyd a thair medr o uchder gyda un bwa. Mae wedi bod ar agor i draffig ers rhai wythnosau ond mae ychydig o waith tacluso dal i fynd yn ei flaen.<\/p>\n<p>Cyflogwyd cwmni Griffiths yn brif gontractwyr ar y prosiect.\u00a0<\/p>\n<blockquote>\n<p>Meddai Owain Thomas, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Griffiths yng Ngogledd Cymru: \u201cRydym yn falch iawn o fod wedi bod yn rhan o\u2019r prosiect hwn a chwarae rhan allweddol wrth ei gwblhau\u2019n llwyddiannus.<\/p>\n<p>\u201cHoffwn gymryd y cyfle hwn i ddiolch i\u2019n holl bartneriaid a\u2019n rhanddeiliaid o\u2019r gadwyn gyflenwi leol a gydweithiodd \u00e2 ni i sicrhau y cyrhaeddodd y diwrnod arbennig hwn. Hoffwn ddiolch i\u2019n t\u00eem adeiladu hefyd, a weithiodd mor ddiflino i sicrhau y cwblhawyd y prosiect i\u2019r safonau uchaf bosibl.<\/p>\n<p>\u201cEdrychwn ymlaen at weld miloedd o bobl yn croesi\u2019r bont yn ystod yr haf i fynychu\u2019r Eisteddfod Genedlaethol\u201d.<\/p>\n<\/blockquote>\n<p>[\/et_pb_text][\/et_pb_column][\/et_pb_row][\/et_pb_section][et_pb_section fb_built=&#8221;1&#8243; _builder_version=&#8221;4.20.0&#8243; _module_preset=&#8221;default&#8221; custom_padding=&#8221;0px|||||&#8221; global_colors_info=&#8221;{}&#8221;][et_pb_row column_structure=&#8221;1_3,1_3,1_3&#8243; _builder_version=&#8221;4.20.0&#8243; _module_preset=&#8221;default&#8221; global_colors_info=&#8221;{}&#8221;][et_pb_column type=&#8221;1_3&#8243; _builder_version=&#8221;4.20.0&#8243; _module_preset=&#8221;default&#8221; global_colors_info=&#8221;{}&#8221;][et_pb_image src=&#8221;https:\/\/ygc.cymru\/wp-content\/uploads\/2023\/05\/Agoriad-Swyddogol-Pont-Bodefail-4-scaled.webp&#8221; title_text=&#8221;Agoriad Swyddogol Pont Bodefail-4&#8243; _builder_version=&#8221;4.20.0&#8243; _module_preset=&#8221;default&#8221; global_colors_info=&#8221;{}&#8221;][\/et_pb_image][\/et_pb_column][et_pb_column type=&#8221;1_3&#8243; _builder_version=&#8221;4.20.0&#8243; _module_preset=&#8221;default&#8221; global_colors_info=&#8221;{}&#8221;][et_pb_image src=&#8221;https:\/\/ygc.cymru\/wp-content\/uploads\/2023\/05\/Agoriad-Swyddogol-Pont-Bodefail-8-scaled.webp&#8221; title_text=&#8221;Agoriad Swyddogol Pont Bodefail-8&#8243; _builder_version=&#8221;4.20.0&#8243; _module_preset=&#8221;default&#8221; global_colors_info=&#8221;{}&#8221;][\/et_pb_image][\/et_pb_column][et_pb_column type=&#8221;1_3&#8243; _builder_version=&#8221;4.20.0&#8243; _module_preset=&#8221;default&#8221; global_colors_info=&#8221;{}&#8221;][et_pb_image src=&#8221;https:\/\/ygc.cymru\/wp-content\/uploads\/2023\/05\/Agoriad-Swyddogol-Pont-Bodefail-13-scaled.webp&#8221; title_text=&#8221;Agoriad Swyddogol Pont Bodefail-13&#8243; _builder_version=&#8221;4.20.0&#8243; _module_preset=&#8221;default&#8221; global_colors_info=&#8221;{}&#8221;][\/et_pb_image][\/et_pb_column][\/et_pb_row][\/et_pb_section]<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Cyngor Gwynedd yn cynnal agoriad swyddogol Pont BodefailLlun o weithwyr YGC &nbsp; Mae pont allweddol yn Ll\u0177n wedi agor, yn benllanw ar bedair blynedd o waith a buddsoddiad o hyd at \u00a33 miliwn oedd yn cynnwys gwelliannau i\u2019r ffordd a gwaith draenio dwr wyneb ac mewn da bryd ar gyfer croesawu\u2019r Eisteddfod Genedlaethol i\u2019r fro. [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":37617,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_et_pb_use_builder":"on","_et_pb_old_content":"","_et_gb_content_width":"","inline_featured_image":false,"_monsterinsights_skip_tracking":false,"footnotes":""},"categories":[29],"tags":[],"class_list":["post-37626","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-news-cy"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/ygc.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/37626","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/ygc.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/ygc.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/ygc.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/ygc.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=37626"}],"version-history":[{"count":5,"href":"https:\/\/ygc.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/37626\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":37635,"href":"https:\/\/ygc.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/37626\/revisions\/37635"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/ygc.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/37617"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/ygc.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=37626"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/ygc.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=37626"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/ygc.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=37626"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}