Dŵr ac Arfordir
Annelu’n Uchel..
Mae gennym ni dîm o beirianwyr pwrpasol i ddelio â’r bygythiad cynyddol o lifogydd sy’n cael ei achosi gan y cynnydd a ragwelir mewn lefelau môr a dwysedd glaw sy’n gysylltiedig â newid yn yr hinsawdd.
Un o brif gyfrifoldebau’r tîm yw ymgymryd â rheoli perygl llifogydd.
Gall Rheoli Perygl Llifogydd gymryd nifer o ffurfiau yn amrywio o adeiladu amddiffynfeydd rhag llifogydd i adeiladu gwytnwch trwy godi ymwybyddiaeth y cyhoedd.
Trwy gysylltiadau cyhoeddus a chydweithredu ag awdurdodau rheoli risg eraill, ein nod yw rheoli’r risg o lifogydd mewn cymunedau ar draws y rhanbarth. Mae hyn yn cynnwys cyflawni rôl / gweithredu fel Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol ar ran Cynghorau Gwynedd a Môn.

Mae’r gwasanaethau a ddarperir ar gyfer y sector Dŵr a’r Arfordir yn cynnwys:
Dyluniad Draenio Dŵr Wyneb
Asesiad Hydrolig o Strwythurau
Asesiad Hydroleg
Modelu Llifogydd
Dylunio Draenio Priffyrdd
Arolygon Arfordirol
Cyngor ar Drwyddedu Gweithgareddau Perygl Llifogydd
Archwiliadau T98
Gwybodaeth ddefnyddio ynglŷn â SDC – Systemau Draenio Cynaliadwy
Cyngor Gwynedd – Systemau Draenio Cynaliadwy (llyw.cymru)
Dŵr Cymru – Systemau Draenio Cynaliadwy | Dŵr Cymru Welsh Water (dwrcymru.com)
Ein Prosiectau








