Dwy Wobr arbennig ar gyfer Gwelliannau Llanycil yn Llyn Tegid, Y Bala.
‘Rydym yn falch iawn o gyhoeddi fod ein enwebiad ar y cyd ar gyfer prosiect gwelliannau i wal gynnal Llanycil Llyn Tegid Y Bala wedi ennill Gwobr CIHT Cymru Wales 2022 – Alun Griffiths Iechyd, Diogelwch a Llesiant, ac Gwobr ICE Wales Cymru ar gyfer ‘innovation’.
Cyflwynwyd gan YGC – Ymgynghoriaeth Gwynedd Consultancy ac Alun Griffiths (Contractors) Ltd.
Partneriaid Allweddol: Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru (NMWTRA) a Dywidag.
Llongyfarchiadau mawr i’r holl dîm.
Manylion cynllun
Gan fod arglawdd serth priffordd sy’n gyfochrog â Llyn Tegid yng Ngogledd Cymru yn parhau i ddioddef problemau sefydlogrwydd, a hynny ar ôl gwaith atgyweirio dro ar ôl tro, comisiynwyd, Alun Griffiths (Contractwyr) a Diwydag gan Lywodraeth Cymru i gynllunio datrysiad.
Yr ateb arloesol oedd gosod wal gynnal o goncrid wedi’i hatgyfnerthu ‘King post type’, wedi’i chynnal gan 36 angor yn y ddaear, 12 ohonynt yn angorau clyfar – y defnydd cyntaf ohonynt yn y DU.
Wrth ddefnyddio’r dull arloesol hwn, gellir canolbwyntio adnoddau peirianneg mewn ffordd a gaiff yr effaith fwyaf trwy waith cynnal a chadw ataliol a thechnoleg ragfynegol. Mae hyn yn gwella diogelwch gan leihau’r amser a dreulir ar y safle gan staff peirianneg a gweithwyr trafnidiaeth.
Gan ddefnyddio synhwyrydd mesur grym unigryw, gellir monitro’r llwyth ar yr angorau clyfar o bell gyda data cyfredol yn cael ei drosglwyddo i system cwmwl, fel bod modd goruchwylio perfformiad yr asedau yn barhaus.
Gellir defnyddio’r data i gadarnhau rhagolygon y dyluniad, gwella ansawdd modelu a darparu mewnwelediad ar gyfer datrysiadau dyluniad wedi’u teilwra.
Mae’r dull hwn o fonitro’r angorau o bell yn barhaus yn lleihau’r tarfu a achosir gan reolaeth traffig, ac yn cynnig gwell diogelwch i holl ddefnyddwyr trafnidiaeth, yn cynnwys cerddwyr a beicwyr.