(01286) 679426 ygc@gwynedd.llyw.cymru

Nodyn o ddiolch gan Huw Williams

Mae Huw wedi bod gyda’r Cyngor ers 40 o flynyddoedd gan gychwyn ei yrfa gyda Chyngor Sir Gwynedd yn 1982. Cyn iddo adael am y tro olaf, mae Huw wedi hel atgofion am yr amser a fu gyda staff YGC.

Dechreuais fy ngyrfa efo Cyngor Sir Gwynedd ym 1982, ar ôl gweithio i Howard Humphries & Partners ar Ffordd Osgoi A4042 Pontypool i New Inn ac ar A48 Llanddarog i Ffordd Osgoi Cross Hands. Dechrau heriol i ‘ngyrfa ond cyfnod hapus iawn.
Fe wnaeth y profiad o ddod yn Beiriannydd Siartredig erbyn 1988, ennill Gwobr Patterson a dod yn Gymrawd Sefydliad y Peirianwyr Sifil (ICE) fy ysgogi i roi amser ac ymdrech i hyfforddi staff fel bod pawb yn cael cyfle i gael achrediad proffesiynol ac, ar ochr sifils, rwy’n falch o’r ffaith fod neb o YGC wedi methu ers 1998.
Rhaid i mi hefyd sôn am Bob Diamond fel Syrfëwr Sirol a fy mentor proffesiynol tan 2002. Rwy’n ei gofio fel peiriannydd sifil angerddol rhagorol, oedd isio gwneud y peth cywir. Rwy’n ddiolchgar iawn iddo a’i ddylanwad.
Bu i YGC gael ei sefydlu yn rhan o addrefnu Llywodraeth Leol yn ôl yn 1996, mi wnaeth YGC a fy rôl fel pennaeth ddechrau’r un flwyddyn gyda llai na 40 o aelodau staff. Yr unig ddau nôd adeg hynny oedd bod yr ymgynghoriaeth o ddewis i gleientiaid a thyfu i fod yn un o’r rhai mwyaf llwyddiannus yng Ngogledd Cymru. Dros amser rydym wedi llwyddo i fod yn Ymgynghoriaeth blaengar, llwyddiannus gyda dyfodol cadarn.
Staff yw cryfder ac enaid YGC. Un o’r uchelbwyntiau fy ngyrfa yw’r pleser o dyfu YGC a chyflogi staff lleol mewn swyddi medrus sydd yn galluogi nhw a’i theuluoedd i aros yn eu cynefin, sydd yn ei dro yn cefnogi’r economi leol.
‘Rydym ni fel Adran wedi cael pleser mawr yn cydweithio gyda chi fel cleientiaid, partneriaid, contractwyr ac ymgynghorwyr, ag defnyddio ein holl sgiliau fel tîm, a ddim wedi bod ofn ehangu ein gweledigaeth i gwrdd â gofynion feysydd gwaith newydd e.e. newid hinsawdd a’r effaith ar gymunedau. Mae diwylliant iach yma o fewn YGC a’r gallu i gydweithio yn sail bositif at y dyfodol.
I fi mae’r amser wedi hedfan heibio, ac rwyf yn falch iawn o’n llwyddiant a’n gallu i guro sawl gwobr. Felly i gloi, diolch i chi am eich cyfeillgarwch, drwy gydweithio ar lefel gwaith, a hefyd ar lefel bersonol.
Nawr, mae’r her y dyfodol gyda Steff fel Pennaeth, a’r gefnogaeth gan ei dîm rheoli profiadol, ac mi fyddant a holl staff YGC yn edrych ymlaen at gydweithio gyda chi er mwyn i bawb gael llwyddiant a mynd o nerth i nerth.
Cofion gorau, Huw